Cyllid grant yn helpu i greu ‘Ynys Actif’
Awst 29, 2024
Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU wedi dyrannu £400,000 i Gyngor Sir Ynys Môn er mwyn rhoi hwb i’n menter ‘Ynys Actif’.
Mae Môn Actif, Gwasanaeth Hamdden y Cyngor, wedi cymeradwyo 30 o geisiadau llwyddiannus gan amrywiaeth o wahanol glybiau a sefydliadau gwirfoddol – gan eu galluogi nhw i gynyddu’r niferoedd sy’n cymryd rhan.
Yn ddiweddar, mae Clwb Hwylio Caergybi, un o’r ymgeiswyr llwyddiannus, wedi gallu cyflwyno hwylio i fwy o blant a phobl ifanc; tra bo Neuadd Bentref Llanddona wedi gallu annog y genhedlaeth hŷn i wneud mwy o ymarfer corff drwy eu menter campfa werdd.
Dywedodd Deilydd Portffolio Hamdden y Cyngor, y Cynghorydd Neville Evans, “Mae’r cyllid hwn i’w groesawu ac wedi helpu ein clybiau chwaraeon a sefydliadau gwirfoddol ar draws yr Ynys. Mae’r prosiectau yr ydw i wedi ymweld â nhw hyd yma wedi bod yn ddiolchgar iawn o’r cyllid ac maent yn edrych ymlaen at y cyfleoedd a fydd yn codi ar gyfer y cymunedau lleol.”
Ychwanegodd, “Mae’r cyllid pwysig hwn yn galluogi sefydliadau i gynyddu’r niferoedd sy’n cymryd rhan mewn gweithgareddau corfforol – gan helpu i wneud Ynys Môn yn ‘Ynys Actif’. Mae hefyd yn cefnogi nod cyffredinol y Cyngor o ‘greu Ynys Môn iach a llewyrchus lle gall pobl ffynnu’.”
Dywedodd Christian Branch, Pennaeth Rheoleiddio a Datblygiad Economaidd y Cyngor, “Bydd y cyllid grant hwn yn rhoi hwb angenrheidiol i nifer o glybiau chwaraeon a sefydliadau gwirfoddol ar yr Ynys. Mae darparu adnoddau er mwyn gallu cymdeithasu, gwneud ymarfer corff a chadw’n heini yn hynod bwysig er mwyn gallu hyrwyddo iechyd a llesiant ein trigolion ac ymwelwyr. Hoffwn ddiolch i swyddogion Môn Actif am eu holl waith caled wrth sicrhau a dosbarthu’r cyllid grant.”
- Popeth6403
-
Newyddion
5971
-
Addysg
2140
-
Hamdden
1870
-
Iaith
1652
-
Celfyddydau
1467
-
Amgylchedd
1023
-
Gwleidyddiaeth
932
-
Iechyd
693
-
Llenyddiaeth
646
-
Cerddoriaeth
606
-
Arian a Busnes
578
-
Amaethyddiaeth
519
-
Bwyd
457
-
Chwaraeon
370
-
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
329
-
Gwyddoniaeth a Thechnoleg
286
-
Ar-lein
261
-
Eisteddfod yr Urdd
185
-
Hyfforddiant / Cyrsiau
88
-
Cystadlaethau
47
-
Barn
16
-
Papurau Bro
14
-
Adolygiadau Llyfrau
13
-
Teledu
11
-
Adolygiadau Cerddoriaeth
6
-
Sioe Frenhinol Cymru
4
-
Llythyron
3