Cylch Chwarae Ceredigion yn ennill gwobr yng Ngwobrau Blynyddoedd Cynnar Cymru
Medi 24, 2024
Mae Cylch Chwarae Dwyieithog Aberporth sy'n darparu addysg yn sector nas cynhelir i Gyngor Sir Ceredigion wedi ennill Gwobr 'Y Byd y tu allan' yn dilyn eu hymrwymiad i ddefnyddio'r amgylcheddau naturiol yn yr awyr agored i ddatblygu dysgu plant a manteisio ar hyfforddiant ysgol goedwig drwy’r Cyngor.
Er nad oes ganddynt ardal awyr agored ynghlwm wrth y lleoliad, maent yn manteisio ar amgylcheddau naturiol a lleoedd amrywiol ar gyfer gweithgareddau awyr agored o fewn pellter cerdded hawdd o’r Cylch Chwarae. Maent yn archwilio coedwigoedd lleol, ac yn darparu offer a chyfarpar digonol, heriol, a diddorol sy’n cael eu defnyddio mewn amrywiaeth o ffyrdd i ddatblygu dysgu’r plant.
Dywedodd Rhiannon a Katie, Arweinwyr Cylch Chwarae Aberporth: “Mae’r staff yn ddiolchgar iawn am y gydnabyddiaeth hon! Mae’r staff wedi gweithio’n ddiflino i greu amgylchedd meithringar i’n dysgwyr ifanc, ac mae’r cyflawniad hwn yn dyst i’w hymroddiad. Diolch o galon i’n pwyllgor rheoli sydd wedi bod yn gefnogol iawn dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae’r lleoliad yn ddiolchgar i’r plant, rhieni, staff a chefnogaeth Cyngor Sir Ceredigion.”
Ychwanegodd y Cynghorydd Wyn Thomas, Aelod Cabinet Ceredigion ar gyfer Ysgolion, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau: “Mae’r gydnabyddiaeth hon yn tynnu sylw eu cyflawniad rhagorol yn y byd y tu allan. Mae’r staff wedi gweithio’n ddiflino i greu amgylchedd meithrin i’n dysgwyr ifanc ac mae’r cyflawniad hwn yn dyst i’w hymroddiad. Llongyfarchiadau i bawb a gymerodd ran!”
I gael rhagor o wybodaeth am Wobrau Blynyddoedd Cynnar Cymru, ewch yma
- Popeth6420
-
Newyddion
5987
-
Addysg
2140
-
Hamdden
1870
-
Iaith
1654
-
Celfyddydau
1468
-
Amgylchedd
1025
-
Gwleidyddiaeth
932
-
Iechyd
693
-
Llenyddiaeth
646
-
Cerddoriaeth
606
-
Arian a Busnes
580
-
Amaethyddiaeth
522
-
Bwyd
457
-
Chwaraeon
370
-
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
329
-
Gwyddoniaeth a Thechnoleg
286
-
Ar-lein
261
-
Eisteddfod yr Urdd
193
-
Hyfforddiant / Cyrsiau
91
-
Cystadlaethau
47
-
Barn
16
-
Papurau Bro
14
-
Adolygiadau Llyfrau
13
-
Teledu
11
-
Adolygiadau Cerddoriaeth
6
-
Sioe Frenhinol Cymru
4
-
Llythyron
3