Cyhoeddi enillydd Gwobr Goffa Norah Isaac 2024

Gorffennaf 08, 2024

Lisa Evans
Mae Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant wedi cyhoeddi mai enillydd Gwobr Goffa Norah Isaac 2024 yw Lisa Evans, myfyrwraig BA Addysg Gynradd gyda SAC o Lambed.

Dyfernir Gwobr Goffa Norah Isaac i’r myfyriwr a gyfrannodd fwyaf, yn nhyb y Brifysgol, at fywyd Cymraeg y sefydliad yn ystod y flwyddyn academaidd.

Bu Norah Isaac yn  Brif Ddarlithydd Drama a’r Gymraeg yng Ngholeg y Drindod Caerfyrddin am flynyddoedd lawer lle ysbrydolodd genedlaethau o fyfyrwyr. Magodd do ar ôl to o fyfyrwyr i fod, yn eu tro, yn athrawon medrus, a hwythau’n diolch am y cyfle a gawsant i fod wrth draed meistr.      

Gyda chefnogaeth a thrwy haelioni Cymdeithas Ddinesig Caerfyrddin, trefnwyd bod Lisa yn derbyn ei gwobr mewn derbyniad ar gampws Caerfyrddin yn ystod y seremonïau graddio. 

Dywedodd Meryl Bowen, Darlithydd Addysg Gychwynnol Athrawon o’r Drindod Dewi Sant: 

“Bu angerdd a brwdfrydedd Lisa, myfyrwraig ar y cwrs BA Addysg Gynradd gyda SAC,  dros bopeth Cymraeg a Chymreig yn ysbrydoliaeth i’w chyfoedion ar draws y Brifysgol dros y tair blynedd ddiwethaf. 

“Fel Llywydd y Gymdeithas Gymraeg bu’n llysgennad penigamp wrth hybu’r Gymraeg a Chymreictod, ac mae wedi gweithio’n ddiwyd i sicrhau parhad i’r Gymdeithas ac yn cydnabod y pwysigrwydd o’i fodolaeth i’r Brifysgol. Gwnaeth annog myfyrwyr i ymuno yn yr amryw o weithgareddau a gyniga’r Brifysgol, ac i fanteisio ar bob cyfle posib.

“Gweithiodd yn ddiwyd hefyd i drefnu sesiynau hyfforddi a gweithgareddau cymdeithasol yn enw’r Gymdeithas a hynny trwy gyfwng y Gymraeg neu’n ddwyiethiog. Dangosodd sgiliau trefnu ardderchog pan drefnodd taith i’r Iwerddon ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad, a chydweithiodd yn ddiflino gyda’i chyd-fyfyrwyr i gymryd rhan yn yr Eisteddfod Ryng-golegol. 

“Yn ystod ei phrofiad addysgu proffesiynol llwyddiannus, ymdrechodd i godi safonau iaith y dysgwyr ifanc dan ei gofal. Yn ychwanegol at ofynion ei chwrs, astudiodd ar gyfer arholiad Tystysgrif Sgiliau Iaith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.”

Meddai Lisa: 

“Mae’n fraint ac anrhydedd i dderbyn gwobr goffa Norah Isaac, mae’r iaith Gymraeg yn bwysig ofnadwy i mi, a roedd cael y cyfle i hybu’r iaith Gymraeg ar gampws Gaerfyrddin yn fythgofiadwy trwy ail gydio’n y gymdeithas Gymraeg i fod yn gymdeithas gadarn ar gyfer y dyfodol”

Mae Lisa’n gobeithio dysgu am flwyddyn wedi graddio, ac yna dychwelyd i’r Brifysgol er mwyn cwbwlhau diploma i fod yn gwnselydd plant. 

Ychwanegodd y Cynghorydd Peter Hughes Griffiths o Gymdeithas Ddinesig Caerfyrddin, 

“ Mor braf yw cael llongyfarch Lisa Evans ar ennill Gwobr Goffa Norah Isaac eleni, a hynny ar ran Cymdeithas Ddinesig Caerfyrddin. Mae’r wobr flynyddol hon i werthfawrogi cyfraniad myfyriwr neu fyfyrwraig am eu gwaith yn hyrwyddo’r iaith Gymraeg mor bwysig wrth i ni gofio am  Norah Isaac a’r hyn a wnaeth hi yn y maes hwnnw.” 

Mwy

GWELD POPETH

Delyth Evans yw Cadeirydd newydd S4C

Owen Davies ac Emily Rees yn ymuno â Bwrdd Mentera

Anna Bowen i arwain Rhaglen Hŷn 2025

  • Popeth6408
  • Newyddion
    5976
  • Addysg
    2140
  • Hamdden
    1870
  • Iaith
    1653
  • Celfyddydau
    1468
  • Amgylchedd
    1023
  • Gwleidyddiaeth
    932
  • Iechyd
    693
  • Llenyddiaeth
    646
  • Cerddoriaeth
    606
  • Arian a Busnes
    578
  • Amaethyddiaeth
    522
  • Bwyd
    457
  • Chwaraeon
    370
  • Eisteddfod Genedlaethol Cymru
    329
  • Gwyddoniaeth a Thechnoleg
    286
  • Ar-lein
    261
  • Eisteddfod yr Urdd
    185
  • Hyfforddiant / Cyrsiau
    91
  • Cystadlaethau
    47
  • Barn
    16
  • Papurau Bro
    14
  • Adolygiadau Llyfrau
    13
  • Teledu
    11
  • Adolygiadau Cerddoriaeth
    6
  • Sioe Frenhinol Cymru
    4
  • Llythyron
    3