Cyhoeddi enillwyr Ysgoloriaeth Artist Ifanc a Medal Gelf Eisteddfod yr Urdd Maldwyn
Mai 27, 2024
Noddir y seremoni eleni gan Ymddiriedolaeth Pantyfedwen. Cyflwynir Ysgoloriaeth Artist Ifanc, gwerth £2,000 drwy garedigrwydd y diweddar Dr Dewi Davies a’i deulu am y gwaith mwyaf addawol gan unigolyn rhwng 18–25 oed. A chyflwynir y Fedal Gelf ar gyfer y gwaith mwyaf addawol o blith enillwyr cenedlaethol holl gynnyrch adran blwyddyn 10–19 oed.
Mae Wanesa yn 19 oed ac yn astudio ar gyfer Diploma Sylfaen Celf a Dylunio yng Ngholeg Gŵyr yn Abertawe. Yn wreiddiol o Wlad Pwyl, mae hi wedi byw yn Abertawe ers dros 14 mlynedd. Mae ganddi le wedi’i gadarnhau yn UAL (University of the Arts London) y flwyddyn nesaf i astudio Darlunio a Chyfryngau Gweledol ac mae’n gobeithio cymhwyso fel artist/darlunydd graffeg yn y dyfodol.
Meddai Wanesa: “Rwy’n mwynhau arbrofi gyda chyfryngau ac arddulliau artistig amrywiol i ehangu fy sgiliau, yn benodol gwneud printiau, celf ddigidol a phaentio gouache.”
Mae ei chelf wedi cael ei arddangos mewn tair oriel yn Abertawe, gan gynnwys Oriel Gelf Glynn Vivian. Derbyniodd fwrsariaeth gan Weithdy Argraffu Abertawe a chymerodd ran mewn prosiect i ddathlu 50 mlynedd ers sefydlu Llyfrgell Glowyr De Cymru. Roedd ei phrint, "The Descent/Descent,"yn un o'r 20 print a ddewiswyd, ac mae'n cael ei arddangos ar hyn o bryd yng Nghanolfan Celfyddydau Taliesin.
Beirniad y gystadleuaeth oedd Jo Munton a Kate Morgan-Claire. Yn eu beirniadaeth, dywedodd y ddwy: “Roedd maes y cynigion yn eang, a’r safonau’n uchel, mae’n amlwg bod gan bawb gariad at eu maes creadigol a’r hyn sy’n eu hysbrydoli. Mae gan Wanesa ffocws mawr ar ei gwaith a sut yr hoffai ei ddatblygu. Mynegodd ei syniadau mor eglur fel ei bod yn hawdd gweld bod ganddi lawer o botensial fel artist. Roedd ei gallu i ddeffro’r emosiynau ac adrodd stori trwy ei delwedd o’r glöwr a’r caneri yn gwneud i’r gwaith hwn sefyll allan.”
Mae Saffron Lewis, enillydd y Fedal Gelf, Dylunio a Thechnoleg yn fyfyriwr celf a dylunio yng Ngholeg Sir Benfroac ar fin mynd i Brifysgol Metropolitan Caerdydd i astudio Celfyddyd Gain ym mis Medi.
Dywedodd: “Dechreuodd fy nghariad at y celfyddydau yn ifanc iawn ac ar hyd y blynyddoedd mae hyn wedi tyfu. Mae arbrofi gydag amryw o wahanol gyfryngau a phrosesau artistig yn cadw fy angerdd yn fyw.
“Mae testun fy ngwaith yn bennaf yn organig ac yn gynaliadwy. Rwy'n hoffi amsugno awyrgylch fy amgylchoedd i greu marciau egnïol o fewn fy ngwaith celf. Mae fy ymarfer yn cynnwys amrywiaeth o gyfryngau a rwy’n hoffi creu darnau diddorol ac unigryw sydd heb eu gweld o’r blaen; lle gall y sawl sy’n edrych ar y darn greu eu stori eu hunain.”
Rhoddir y Fedal Gelf er cof am Elain Heledd a fu’n ysbrydoli disgyblion Llanegryn a Llanbrynmair a rhoddir tlws yr Ysgoloriaeth Artist Ifanc gan gwmni Arwerthwyr Celfyddyd Gain Rogers Jones.
- Popeth6403
-
Newyddion
5971
-
Addysg
2140
-
Hamdden
1870
-
Iaith
1652
-
Celfyddydau
1467
-
Amgylchedd
1023
-
Gwleidyddiaeth
932
-
Iechyd
693
-
Llenyddiaeth
646
-
Cerddoriaeth
606
-
Arian a Busnes
578
-
Amaethyddiaeth
519
-
Bwyd
457
-
Chwaraeon
370
-
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
329
-
Gwyddoniaeth a Thechnoleg
286
-
Ar-lein
261
-
Eisteddfod yr Urdd
185
-
Hyfforddiant / Cyrsiau
88
-
Cystadlaethau
47
-
Barn
16
-
Papurau Bro
14
-
Adolygiadau Llyfrau
13
-
Teledu
11
-
Adolygiadau Cerddoriaeth
6
-
Sioe Frenhinol Cymru
4
-
Llythyron
3