Cyhoeddi dyddiadau prif ddigwyddiad masnach bwyd a diod Cymru

Rhagfyr 20, 2022

Bydd digwyddiad masnach bwyd a diod rhyngwladol Cymru, BlasCymru/TasteWales, yn cael ei gynnal ar 25 a 26 Hydref 2023, mae’r Gweinidog Materion Gwledig Lesley Griffiths wedi cadarnhau.

Mae’r digwyddiad deuddydd a drefnir gan is-adran Bwyd a Diod Cymru Llywodraeth Cymru yn dod â chynhyrchwyr bwyd a diod a phrynwyr cenedlaethol a rhyngwladol a gweithwyr proffesiynol y diwydiant bwyd at ei gilydd.

·       Pryd: 25 - 26 Hydref 2023

·       Ble: Y Ganolfan Gynadledda Ryngwladol (ICC Cymru), Gwesty'r Celtic Manor, Casnewydd, Cymru

·       Beth: Broceriaeth rhwng prynwyr a busnesau bwyd a diod; Cinio VIP a chyfleoedd i rwydweithio; seminarau, dyfodol cynaliadwy ac arddangosfa.

Mae’r digwyddiad, a gynhelir yn ICC Cymru yng Nghasnewydd, wedi bod yn allweddol mewn blynyddoedd blaenorol o ran creu cyfleoedd busnes newydd i fusnesau Cymreig ac mae wedi gweld cynnyrch o Gymru yn cael ei anfon o amgylch y byd i bobl ei fwynhau.

Dywedodd y Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths: “Mae Cymru’n falch o fod yn gartref i ddiwydiant bwyd a diod llwyddiannus a deinamig. O fusnesau crefftus i gwmnïau mawr, mae cynhyrchion Cymreig ymhlith y gorau yn y byd.

“BlasCymru/TasteWales fydd y pedwerydd digwyddiad o’r fath, yn rhoi llwyfan i fusnesau Cymreig arddangos y cynnyrch gorau sydd gan Gymru i’w gynnig i gynulleidfa fyd-eang, yn ogystal â darparu ffenestr siop i fuddsoddwyr a phartneriaid sydd â diddordeb.

“Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at groesawu cynadleddwyr a noddwyr fel ei gilydd, gan gynnig cyfle heb ei ail i rwydweithio â rhanddeiliaid blaenllaw yn y diwydiant o bob rhan o’r byd.”

Mae bod yn y digwyddiad yn galluogi busnesau i ddod i gysylltiad, rhwydweithio a chynyddu eu proffil brand gyda chynhyrchwyr allweddol, prynwyr yn y DU ac yn rhyngwladol, yn ogystal â gweithwyr proffesiynol ehangach y diwydiant. Bydd hyn i gyd yn digwydd yng nghyd-destun digwyddiad bwyd, cynhadledd ac arddangosfa o ansawdd uchel fydd yn cynnwys ffigyrau blaenllaw yn y diwydiant lle mae sesiynau un i un yn galluogi prynwyr i ymgysylltu â chynhyrchwyr Cymreig a darganfod yr angerdd y tu ôl i'w cynnyrch.

Cyrhaeddodd allforion bwyd a diod o Gymru y lefel uchaf erioed yn 2021 gan gyrraedd £641m, gyda Chymru hefyd yn gweld y cynnydd canrannol mwyaf yng ngwerth allforion bwyd a diod allan o bedair gwlad y DU rhwng 2020 a 2021 pan gynyddodd £89 miliwn.

Ar ôl datblygu enw da am ansawdd a dilysrwydd yn ei arlwy allforio, mae cadwyn gyflenwi sector bwyd a diod Cymru yn parhau i ffynnu, gan gyrraedd trosiant o £23 biliwn yn 2021. Gydag wyth o'r deg cyrchfan allforio bwyd a diod gorau yng Nghymru yn yr UE ac yn werth £465m yn 2021, mae Cymru hefyd yn ehangu’r arlwy Cymreig i wledydd y tu allan i’r UE, gydag allforion i wledydd y tu allan i’r UE wedi cynyddu i £176m yn 2021 o £138m yn 2020.

Gyda channoedd o gynhyrchion yn cael eu harddangos, mae BlasCymru/TasteWales wedi’i gynllunio i sicrhau’r gwerth mwyaf posibl i brynwyr:

·       Gallwch weld a blasu sampl o arddangosfa cynnyrch ar raddfa fawr – manwerthu, gwasanaeth bwyd a labeli preifat

·       Dewch o hyd i fwyd a diod o Gymru - o labeli brand i labeli preifat

·       Dewch i gwrdd ag ystod eang o gyflenwyr

·       Gallwch fod yn rhan o fformat cyfarfod rhagarweiniol effeithlon

·       Gallwch weithio gyda'n harbenigwyr cyrchu i helpu i ddod o hyd i gynhyrchion a chyflenwyr newydd

Mwy

GWELD POPETH

Stori epig Branwen yn dod yn fyw ar lwyfannau ledled cymru mewn sioe gerdd gymraeg newydd

Cyhoeddi Arweinwyr FFIT Cymru 2023

Premier byd gwirfoddoli gyda'r Papurau Bro

  • Popeth6119
  • Newyddion
    5731
  • Addysg
    2103
  • Hamdden
    1856
  • Iaith
    1609
  • Celfyddydau
    1443
  • Amgylchedd
    994
  • Gwleidyddiaeth
    932
  • Iechyd
    675
  • Llenyddiaeth
    644
  • Cerddoriaeth
    597
  • Arian a Busnes
    533
  • Amaethyddiaeth
    468
  • Bwyd
    434
  • Chwaraeon
    357
  • Eisteddfod Genedlaethol Cymru
    302
  • Gwyddoniaeth a Thechnoleg
    268
  • Ar-lein
    260
  • Eisteddfod yr Urdd
    153
  • Hyfforddiant / Cyrsiau
    65
  • Cystadlaethau
    47
  • Barn
    16
  • Papurau Bro
    14
  • Adolygiadau Llyfrau
    13
  • Teledu
    7
  • Adolygiadau Cerddoriaeth
    6
  • Sioe Frenhinol Cymru
    3
  • Llythyron
    3