Cyhoeddi Ben Lake yn llywydd yr Eisteddfod Genedlaethol yng Ngheredigion
Mai 09, 2022
Bydd yn annerch y gynulleidfa o lwyfan y Pafiliwn ar Faes yr Brifwyl, yn ystod wythnos yr Eisteddfod a gynhelir ar gyrion Tregaron o 30 Gorffennaf – 6 Awst.
Yn frodor o Lanbedr Pont Steffan, daw teulu Ben Lake o ardal Llanddewi Brefi a Chastellnewydd Emlyn. Erbyn hyn, mae’n byw yn ardal Ciliau Aeron yng Ngheredigion.
Fe’i addysgwyd yn Ysgol Gyfun Llanbedr Pont Steffan, cyn graddio mewn Hanes a Gwleidyddiaeth yng Ngholeg y Drindod, Rhydychen, cyn derbyn Gradd Meistr mewn Hanes Modern Prydeinig ac Ewropeaidd.
Bu’n drysorydd Cymdeithas Dafydd ap Gwilym tra’n astudio yn y brifysgol, ac yna, yn ystod ei gyfnod fel ysgrifennydd y Gymdeithas, bu’n rhan o’r tîm a drefnodd Eisteddfod Rhydychen yn 2013. Mae’n parhau’n gefnogwr brwd o’r Gymdeithas, ac yn yn cymryd pob cyfle i helpu myfyrwyr o Gymru i ddathlu eu Cymreictod.
Milltir sgwâr
Dychwelodd i Gymru ac i’w filltir sgwâr ar ôl gadael y Brifysgol, a chafodd swydd yn gweithio i Elin Jones AS fel ymchwilydd. Cafodd ei ethol yn Aelod Seneddol dros Geredigion yn yr Etholiad Cyffredinol yn 2017.
Mae Ben yn Is-gadeirydd Pwyllgor Materion Cymreig San Steffan ac yn llefarydd Plaid Cymru yn San Steffan ar ddiwylliant.
Mae Ben yn dilyn amryw o Gymry amlwg fel Llywydd yr Ŵyl dros y blynyddoedd, gan gynnwys y cyflwynydd a’r DJ, Huw Stephens, yr hanesydd Elin Jones a chyn-reolwr cynorthwyol tîm pêl-droed dynion Cymru, Osian Roberts.
- Popeth5851
- Newyddion 5498
- Addysg 2036
- Hamdden 1837
- Iaith 1566
- Celfyddydau 1393
- Amgylchedd 961
- Gwleidyddiaeth 923
- Iechyd 659
- Llenyddiaeth 638
- Cerddoriaeth 576
- Arian a Busnes 500
- Amaethyddiaeth 431
- Bwyd 403
- Chwaraeon 344
- Eisteddfod Genedlaethol Cymru 287
- Ar-lein 258
- Gwyddoniaeth a Thechnoleg 255
- Eisteddfod yr Urdd 146
- Hyfforddiant / Cyrsiau 49
- Cystadlaethau 46
- Barn 15
- Adolygiadau Llyfrau 13
- Papurau Bro 13
- Adolygiadau Cerddoriaeth 6
- Llythyron 3