Cyfnod newydd i ddau bapur lleol

Hydref 12, 2016

Y Cyfnod a’r Corwen Times
Mae perchennog dau bapur newydd wythnosol yn ardal Y Bala a Corwen, Y Cyfnod a’r Corwen Times yn chwilio am brynwr newydd i’r busnes.

Mae’r busnes yn cael ei hysbysebu yn rhifyn yr wythnos hon o’r papurau, a fydd allan yn nes ymlaen heddiw, (Hydref 12).

 

Mae hyn yn dilyn penodiad diweddar y perchennog a golygydd presennol, Mari Williams i swydd Golygydd Cylchgronau’r Urdd. Bydd Mari yn dechrau ar y swydd yma ym mis Rhagfyr.

 

Ym Mai 2013, fe brynodd Mari’r ddau bapur, wedi iddynt ddod i ben wedi cau Gwasg Y Sir yn Y Bala. Cyn hyn, roedd pryder mawr yn lleol bod y papurau wedi diflannu am byth, er eu cylchrediad iach o dros fil rhifyn yr wythnos. 

 

Mae’r papur yn un wythnosol, dwyieithog, sy’n cynnwys newyddion, digwyddiadau, storïau, colofnwyr, newyddion amaeth a chwaraeon. Mae’n unigryw oherwydd  yr elfen newyddion lleol sydd i’r papur, sy’n adlewyrchu holl gymunedau unigol yr ardal, a’r ffaith ei fod yn wythnosolyn dwyieithog.

 

Mae’n gwerthu yn bennaf yn y Bala a Chorwen, ynghyd â Cherrigydrudion, Trawsfynydd, Dolgellau a Rhuthun.  

 

“Mae hwn yn gyfle arbennig i rywun redeg dau bapur hollol unigryw,” meddai Mari.

 

“Dydw i ddim yn meddwl bod papurau newydd fel y rhain yn bod yn unman arall yng Nghymru, gyda darllenwyr mor driw, cyfranwyr mor gydwybodol, hysbysebwyr cefnogol a chymaint o gefnogaeth y tu ôl iddyn nhw. Mae’r gwerthwyr a’r argraffwyr wedi bod yn anhygoel o gefnogol hefyd.

 

“Pan brynais i’r papurau dair blynedd a hanner yn ôl, y cwbl ges i oedd hawl i ddefnyddio’r enw. Roedd rhaid creu popeth arall o’r newydd - cytundeb gydag argraffwyr, sustem ddosbarthu, sustem anfonebu hysbysebion a gwerthiant, manylion cyswllt newydd, cytundeb gyda gwerthwyr, presenoldeb ar Twitter a Facebook, dod o hyd i golofnwyr rheolaidd… A hyn ar ben y dylunio, ysgrifennu a golygu’r papur ei hun.  

 

“Roedd o’n waith caled iawn ac unig ar brydiau. Ond erbyn hyn, mae hynny i gyd wedi dwyn ffrwyth a’r ochr fusnes wedi hen sefydlu. Mae creu’r papur yn ddigon rhwydd bob wythnos a digonedd o ddeunydd yn dod i law - dydw i erioed wedi cael trafferth yn llenwi tudalennau - yn hollol i’r gwrthwyneb ac yn aml heb ddigon o dudalennau i ddal y cynnwys!

 

“Mae o yn fusnes bach cynaliadwy i rywun, efallai fel rhan o fusnes arall tebyg neu hyd yn oed fel menter gymunedol neu fenter ar y cyd. Dwi’n agored i drafod posibiliadau ac yn edrych ymlaen yn fawr i glywed pa syniadau sydd gan bobol am y cam nesaf ar gyfer y papurau.”

 

“Rydw i yn edrych ymlaen rŵan i daflu fy hun i her newydd, sef cyhoeddiadau’r Urdd ac adeiladu a datblygu ar y rhai presennol i sicrhau eu bod yn berthnasol a chyffrous ar gyfer eu darllenwyr presennol a rhai’r dyfodol.” 

 

Meddai Mali Thomas, Cyfarwyddwr Cyfathrebu a Datblygu’r Urdd:

 

"Rydym yn falch iawn fel mudiad fod Mari yn ymuno â ni fel Golygydd Cylchgronau'r Urdd. Mae gan Mari brofiad helaeth yn y maes cyhoeddi ac mae ganddi syniadau cyffroes a gwreiddiol i sicrhau ffyniant y cylchgronau i’r dyfodol.

 

“Mae cylchgronau'r Urdd yn adnodd pwysig iawn i'r mudiad gyda chylchrediad o dros 6,000 yn fisol. Bydd Mari yn ei rôl yn gyfrifol am greu cynnwys deinamig a lliwgar i apelio at ein haelodau ledled Cymru, ynghyd â chynyddu ar ein darllenwyr a datblygu cynnwys digidol i gyd fynd â'r cynnyrch print.”

 

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Mari Williams ar 07834 845 512

Mwy

GWELD POPETH

Teuluoedd yn dychwelyd adref diolch ARFOR: menter Ymgartrefu Llwyddo’n Lleol

Entrepreneur o Ynys Môn yn helpu pobl ifanc i aros yn lleol

Ymchwil Canser Cymru yn enwi llysgenhadon newydd yr elusen

  • Popeth6387
  • Newyddion
    5957
  • Addysg
    2137
  • Hamdden
    1869
  • Iaith
    1646
  • Celfyddydau
    1465
  • Amgylchedd
    1019
  • Gwleidyddiaeth
    932
  • Iechyd
    692
  • Llenyddiaeth
    646
  • Cerddoriaeth
    606
  • Arian a Busnes
    574
  • Amaethyddiaeth
    517
  • Bwyd
    457
  • Chwaraeon
    370
  • Eisteddfod Genedlaethol Cymru
    329
  • Gwyddoniaeth a Thechnoleg
    286
  • Ar-lein
    261
  • Eisteddfod yr Urdd
    184
  • Hyfforddiant / Cyrsiau
    85
  • Cystadlaethau
    47
  • Barn
    16
  • Papurau Bro
    14
  • Adolygiadau Llyfrau
    13
  • Teledu
    11
  • Adolygiadau Cerddoriaeth
    6
  • Sioe Frenhinol Cymru
    4
  • Llythyron
    3