Cyfle i siapio economi las yng Ngogledd Cymru
Ebrill 07, 2025
Wedi'i reoli gan Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, mae’r cynllun yn bartneriaeth rhwng Menter Môn Morlais Cyf, M-SParc, a Cyfoeth Naturiol Cymru sy’n cael ei ariannu gan Ystâd y Goron. Fel rhan o'r rhaglen, bydd pob partner yn cynnig hyfforddiant a chyfle i weithio yn eu meysydd arbenigol nhw, sy’n cynnwys ynni llanw ac ymchwil morol ym Menter Môn Morlais.
Fiona Parry yw Swyddog Prosiect Sgiliau a Hyfforddiant Menter Môn Morlais, roedd hi'n awyddus i hyrwyddo’r cyfle ac annog pobl lleol i wneud cais. Dywedodd: “Dyma gyfle gwych i berson ifanc ymuno â'n tîm ac i gael profiad a datblygu sgiliau gwerthfawr i'r sector ynni adnewyddadwy.”
“Fel sefydliad rydyn ni bob amser wedi bod yn awyddus i ddenu talent lleol a chreu cyfleoedd i bobl weithio mewn swyddi o ansawdd uchel drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae cymryd rhan yn y rhaglen hon gyda'n partneriaid yn caniatáu i ni wneud yn union hynny. Efo’r dyddiad cau yn prysur agosáu, byddwn yn annog unrhyw raddedigion diweddar neu'r rhai sydd yn eu blwyddyn olaf yn y brifysgol i gysylltu ac i wneud cais am y ddwy rôl yma."
Dyma'r ail flwyddyn i Menter Môn Morlais fod yn rhan o Interniaethau Dyfodol Morol. Y llynedd ymunodd dau o raddedigion â thîm ynni Menter Môn fel rhan o'r cynllun. Mae'r ddau wedi parhau i adeiladu ar eu profiad, gan gymryd camau tuag at yrfaoedd yn y sector. Mae eu datblygiad yn adlewyrchu rôl a bwriad y rhaglen wrth ddatblygu talent leol.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 11 Ebrill ac mae mwy o wybodaeth a manylion ceisiadau ar gael ar wefan NWWF.
- Popeth6403
-
Newyddion
5971
-
Addysg
2140
-
Hamdden
1870
-
Iaith
1652
-
Celfyddydau
1467
-
Amgylchedd
1023
-
Gwleidyddiaeth
932
-
Iechyd
693
-
Llenyddiaeth
646
-
Cerddoriaeth
606
-
Arian a Busnes
578
-
Amaethyddiaeth
519
-
Bwyd
457
-
Chwaraeon
370
-
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
329
-
Gwyddoniaeth a Thechnoleg
286
-
Ar-lein
261
-
Eisteddfod yr Urdd
185
-
Hyfforddiant / Cyrsiau
88
-
Cystadlaethau
47
-
Barn
16
-
Papurau Bro
14
-
Adolygiadau Llyfrau
13
-
Teledu
11
-
Adolygiadau Cerddoriaeth
6
-
Sioe Frenhinol Cymru
4
-
Llythyron
3