Cyffro Cwpan y Byd yn ysgogi’r Urdd i gydweithio â’r Gymdeithas Bêl-droed a’r prif ddarlledwyr

Medi 27, 2022

Fel rhan o ddathliadau’r canmlwyddiant, mae’r Urdd yn lansio gwefan gofrestru ar gyfer Jambori Cwpan y Byd. Mae’r Jambori yn cael ei gynhyrchu gan yr Urdd mewn partneriaeth ag S4C, BBC Cymru, ITV Cymru a Chymdeithas Bêl-droed Cymru gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru. Mae prosiect Jambori Cwpan y Byd yr Urdd wedi ei ariannu gan Gronfa Cymorth i Bartneriaid Cwpan y Byd Llywodraeth Cymru.

Mae Urdd Gobaith Cymru yn estyn gwahoddiad i holl ysgolion y wlad i’r Jambori, fydd yn cael ei gynnal yn fyw ar Zoom ar 10 Tachwedd ac yn cael sylw byw ar BBC Radio Cymru a Radio Wales. Bydd yn cael ei gyflwyno gan gyflwynwyr Stwnsh Sadwrn S4C ac yn cynnwys caneuon newydd sbon ar thema Cwpan y Byd yn ogystal â rhai o’r hen ffefrynnau, ac uchafbwynt y canu fydd Dafydd Iwan yn canu Yma o Hyd.

Yn dilyn y llwyddiant ym mis Ionawr pan dorrwyd Record y Byd Guinness gyda thros 95,000 o blant ysgol yn bresennol yn eu parti pen-blwydd, mae’r Urdd wedi dewis fformat tebyg o gofrestru i ddod i ddigwyddiad Zoom byw. Eu nod yw i bob ysgol gynradd yn y wlad gofrestru ar gyfer y Jambori, a allai olygu dros 250,000 o blant.

Meddai Siân Lewis, Prif Weithredwr yr Urdd: “Roedden ni wastad wedi meddwl am gael Jambori canmlwyddiant yn yr hydref, gan ein bod ni eisiau dod â phlant ysgolion Cymru at ei gilydd ar gyfer digwyddiad hwyliog a chynhwysol. Ond gyda Chymru’n cyrraedd Rownd Derfynol Cwpan y Byd, roedd rhaid i ni gefnogi'r tîm a rhoi hwb haeddiannol iddyn nhw gan holl blant ysgolion cynradd y wlad.