Cydweithio'n cryfhau rhwng Mudiad Meithrin a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol
Awst 02, 2023
Bydd Memorandwm Dealltwriaeth rhwng Mudiad Meithrin a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn adeiladu ar y bartneriaeth sydd eisoes yn bodoli rhwng y ddau sefydliad, wrth iddyn nhw gefnogi polisi Cymraeg 2050 y Llywodraeth.
Mae’r sefydliadau yn barod yn cydweithio ar brosiectau megis ‘Clwb Cwtsh’ sy’n cynnig cyfleoedd anffurfiol i rieni a gofalwyr plant bach i ddechrau dysgu Cymraeg, a chynllun ‘Camau’, sy’n rhoi hyfforddiant dysgu Cymraeg i ymarferwyr blynyddoedd cynnar.
Bydd y Memorandwm newydd yn ffurfioli’r cydweithio, gan greu cyfleoedd pellach i gaffael a throsglwyddo’r Gymraeg, ac i gefnogi plant, teuluoedd a gofalwyr i ddysgu a mwynhau’r Gymraeg.
Bydd cyfathrebu effeithiol yn chwarae rôl bwysig, gyda chyfarfodydd a diweddariadau rheolaidd er mwyn rhannu profiadau ac arbenigedd a datblygu syniadau i ddenu cynulleidfaoedd newydd at y Gymraeg.
Bydd ymgynghori ar y cyd â’r cyhoedd, er mwyn adnabod yr anghenion dysgu Cymraeg. Bydd y ddau sefydliad hefyd yn cydweithio ar ymgyrchoedd, er mwyn manteisio ar eu rhwydweithiau gwahanol.
Meddai Dr Gwenllian Lansdown Davies, Prif Weithredwr Mudiad Meithrin:
“Mae Mudiad Meithrin a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn rhannu’r un ymrwymiad i gynnig cyfleoedd i ddysgu, defnyddio, a mwynhau’r Gymraeg.
“Trwy ffurfioli’r bartneriaeth rhyngom, gallwn gefnogi llwybr iaith ‘o’r crud i’r bedd’, gan gyfrannu at nod Llywodraeth Cymru o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg.”
Meddai Dona Lewis, Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol:
“Mae creu partneriaethau grymus yn rhan bwysig o rôl y Ganolfan, wrth i ni sicrhau cyfleoedd i bobl ddysgu a defnyddio’r Gymraeg gyda’u teuluoedd, yn eu cymunedau, ac yn y gwaith.
“Mae’r Memorandwm Dealltwriaeth yma yn adeiladu ar y cydweithio llwyddiannus sydd eisoes wedi digwydd rhwng y Ganolfan a’r Mudiad, ac edrychwn ymlaen at gefnogi’n gilydd fwyfwy er mwyn hwyluso taith iaith pob unigolyn yng Nghymru.”
Cyhelir sgwrs gyhoeddus i drafod y cydweithio gyda Gwenllïan Lansdown Davies a Dona Lewis, am 3.00pm Dydd Llun, 7 Awst, ym Mhabell y ‘Big Top’, Maes D, ar faes Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd.
- Popeth6424
-
Newyddion
5991
-
Addysg
2141
-
Hamdden
1870
-
Iaith
1656
-
Celfyddydau
1469
-
Amgylchedd
1026
-
Gwleidyddiaeth
932
-
Iechyd
694
-
Llenyddiaeth
646
-
Cerddoriaeth
606
-
Arian a Busnes
580
-
Amaethyddiaeth
523
-
Bwyd
457
-
Chwaraeon
370
-
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
329
-
Gwyddoniaeth a Thechnoleg
286
-
Ar-lein
261
-
Eisteddfod yr Urdd
193
-
Hyfforddiant / Cyrsiau
91
-
Cystadlaethau
47
-
Barn
16
-
Papurau Bro
14
-
Adolygiadau Llyfrau
13
-
Teledu
11
-
Adolygiadau Cerddoriaeth
6
-
Sioe Frenhinol Cymru
4
-
Llythyron
3