Cwmni Theatr Ieuenctid yr Urdd yn dychwelyd gyda chynhyrchiad newydd sbon

Mehefin 20, 2024

Yn dilyn llwyddiant y llwyfaniad o ‘Deffro’r Gwanwyn’ y llynedd, mae Cwmni Theatr Ieuenctid yr Urdd (Y Cwmni) yn ei ôl gyda chynhyrchiad newydd yr haf hwn, sef ‘Ble mae trenau’n mynd gyda’r nos a chwestiynau mawr eraill bywyd’.

Mi fydd y sioe wreiddiol yn cynnig profiad theatrig unigryw, ble bydd y gynulleidfa’n cael eu gwahodd i ymuno â chast o 23 o berfformwyr ifanc o bob cwr o Gymru ar daith drên chwareus. Heb yn wybod i ble maen nhw’n mynd, bydd yn gyfle i ddianc ac i ystyried cwestiynau ‘mawr’ bywyd, gan gynnwys ‘A oes Heddwch?’ a ‘Beth mae Beyoncé yn ei gael i frecwast?!’

Yn agor yng Nghastell Aberteifi nos Wener, 28 Mehefin, mi fydd y sioe yn mynd ar daith o amgylch amrywiol lwyfannau cymunedol er mwyn sicrhau bod gymaint â phosib yn cael y cyfle i fwynhau gwaith creadigol ieuenctid Cymru.

O dan arweiniad y dramodydd profiadol Branwen Davies, mae Cwmni Theatr Ieuenctid yr Urdd yn cynnig pob math o gyfleoedd gwerthfawr i bobl ifanc 16-25 oed, ar ac oddi ar y llwyfan.

“Mae’n bwysig ein bod ni’n cynnig amrywiaeth o gyfleoedd i’n bobl ifanc bob blwyddyn, yn ogystal â’n cynulleidfaoedd,” esbonia Branwen Davies, Trefnydd Theatr Ieuenctid yr Urdd. “Eleni mae’r cynhyrchiad wedi galluogi criw ifanc gyda diddordeb mewn ysgrifennu a dyfeisio i greu rhywbeth arbennig ac unigryw. Mae ambell un o’n haelodau yn awtistig neu’n niwroamrywiol, ac mae gweld nhw’n ffynnu dros y misoedd diwethaf y peth gora erioed!

“Roedd yn fwriad o’r cychwyn ein bod ni’n creu profiad theatrig lliwgar, egnïol, llawn direidi a chwilfrydedd sydd yn caniatáu cynulleidfa i ddianc i fyd dychmygol ac anghofio’r byd a’i broblemau. Roedd hefyd yn bwysig ein bod ni’n mynd â theatr at stepen ddrws pobl.”

Dechreuodd y broses o ddatblygu’r sioe newydd gyda 26 o bobl ifanc yn dod at ei gilydd i drafod syniadau mewn cyfres o sesiynau ‘Stafell Sgwennu’ yng Ngwersylloedd yr Urdd yn yr hydref.

Un fu’n rhan o’r broses ysgrifennu a bellach yn aelod o gast y cynhyrchiad yw Raaes Richards: “Wnaethon ni amrywiol weithgareddau, teithio o gwmpas Sir Benfro, rapio hefo’r Fari Lwyd… ac wrth gwrs roedd yna weithdai ysgrifennu hefyd, gan gynnwys defnyddio delweddau fel ysbrydoliaeth a chreu straeon byrion. Dwi’n hoff iawn o fod yn rhan o brosiect fel hwn sy’n magu sgiliau newydd ac sy’n helpu fi i ddod yn fwy hyderus.”

Mae Jona Milone yn gyffrous iawn i fod yn rhan o’r cast: “Mae’r sioe yn hollol unigryw, hollol newydd ac yn gwthio ffiniau theatr ac mae’n hynod gyffrous i fod yn rhan o’r arbrawf! Cŵn doniol, ymbaréls yn llawn atgofion a dillad gydag enaid - mae’r sioe yn mynd a ni fel actorion a’r gynulleidfa ar siwrne.”

Bydd taith ‘Ble mae trenau’n mynd gyda’r nos a chwestiynau mawr eraill bywyd’ yn agor yng Nghastell Aberteifi ar 28 a 29 Mehefin cyn teithio i Ddolywern, Casnewydd, Ystradgynlais, Aberffraw a gorffen yn Nefyn ar 27 Gorffennaf.

Mae’r sioe yn addas i bob oed a'r tocynnau yn £5-£10, sy’n cynnwys lluniaeth ysgafn a chyfle i gymdeithasu ar ôl pob perfformiad. Bydd elw o bob perfformiad yn mynd i elusen leol er mwyn cefnogi’r gymuned honno.

Bydd adloniant ychwanegol wedi’i baratoi gan ysgolion lleol ym mherfformiadau Aberteifi, Casnewydd, Aberffraw a Nefyn o dan ofal Sian Elin, Cydlynydd Cyfranogi Theatr Genedlaethol Cymru a Nia Hâf, Swyddog Prosiect Llwyddo’n Lleol.

Mwy

GWELD POPETH

Teuluoedd yn dychwelyd adref diolch ARFOR: menter Ymgartrefu Llwyddo’n Lleol

Entrepreneur o Ynys Môn yn helpu pobl ifanc i aros yn lleol

Ymchwil Canser Cymru yn enwi llysgenhadon newydd yr elusen

  • Popeth6387
  • Newyddion
    5957
  • Addysg
    2137
  • Hamdden
    1869
  • Iaith
    1646
  • Celfyddydau
    1465
  • Amgylchedd
    1019
  • Gwleidyddiaeth
    932
  • Iechyd
    692
  • Llenyddiaeth
    646
  • Cerddoriaeth
    606
  • Arian a Busnes
    574
  • Amaethyddiaeth
    517
  • Bwyd
    457
  • Chwaraeon
    370
  • Eisteddfod Genedlaethol Cymru
    329
  • Gwyddoniaeth a Thechnoleg
    286
  • Ar-lein
    261
  • Eisteddfod yr Urdd
    184
  • Hyfforddiant / Cyrsiau
    85
  • Cystadlaethau
    47
  • Barn
    16
  • Papurau Bro
    14
  • Adolygiadau Llyfrau
    13
  • Teledu
    11
  • Adolygiadau Cerddoriaeth
    6
  • Sioe Frenhinol Cymru
    4
  • Llythyron
    3