Cwmni Castell Howell yn darparu bwydlen gynaliadwy yng nghinio Nuffield
Rhagfyr 01, 2022
Roedd y 420 a oedd yn bresennol wedi dod i Gaerdydd ar gyfer cynhadledd flynyddol Ysgoloriaethau Ffermio Nuffield, a gweiniwyd prydau bwyd yn seiliedig ar amrywiaeth o gynnyrch Cymreig lleol a chynaliadwy.
Canolbwynt y fwydlen - a grëwyd gan Castell Howell a Cardiff Catering - oedd syrlwyn rhost o gig eidion Celtic Pride wedi ei gadw am 40 niwrnod. Daeth y cig o fferm sydd ond saith milltir o ganol Caerdydd.
Mae’r cig eidion sy’n cael ei gynhyrchu ar fferm 950 cyfer y teulu Rees ym Mhenydoylan 26% yn is o ran allyriadau carbon na fferm nodweddiadol o’r un maint ym Mhrydain. Dangosodd archwiliad carbon gan dîm ynni yr Undeb Cenedlaethol Ffermwyr (NFU) Cymru fod y fferm yn atafaelu yn agos at 50 y cant o’r carbon o’i holl weithgareddau.
Bu’r gwesteion hefyd yn mwynhau tatws ‘Root Zero’ sydd wedi eu hardystio i fod yn niwtral o ran allyriadau carbon. Mae’r tatws hyn yn cael eu tyfu yn Sir Benfro gan Puffin Produce Ltd. Yn ogystal, roedd y pryd bwyd yn cynnwys cennin, moron treftadaeth a phannas a dyfwyd ar Benrhyn Gŵyr a chaws cwmni cydweithredol Golden Hooves.
Roedd bwydlen cinio cynhadledd Nuffield yn ffrwyth ymdrech Castell Howell i greu cynllun penodedig ar gyfer cynaladwyedd at ddefnydd cyflenwyr a chwsmeriaid. Mae nifer o gyflenwyr a chwsmeriaid Castell Howell eisoes wedi dechrau’r daith i sicrhau bod cynaliadwyedd yn rhan o’u busnesau.
Dywedodd Edward Morgan sy’n gyfrifol am Gyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol Grŵp Castell Howell, “Bwriad Castell Howell yw adnabod cyflenwyr a chwsmeriaid sy’n gweithio tuag at gynhyrchu mewn ffordd gynaliadwy. Mae’r digwyddiad hwn wedi bod yn gam at weithio’n agosach gyda’n cwsmer, Cardiff Catering, a’r gadwyn gyflenwi wrth ddod â gwerthoedd cynaliadwyedd i’r gymuned.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cydnabod yr angen am wynebu heriau amgylcheddol a chynhyrchiant bwyd. Yn 2020, lansiwyd y Clwstwr Cynaliadwyedd Bwyd a Diod, ac mae cynaliadwyedd yn ganolog yn y Bil Amaeth (Cymru) 2022 a gyhoeddwyd yn ddiweddar.
Yn yr un modd, mae rhanddeiliaid yn y diwydiant amaeth yn gynyddol ffocysu ar themâu cynaliadwyedd. Mae hyn yn cynnwys ymrwymiad Net Zero erbyn 2040 NFU Cymru a ‘Y Ffordd Gymreig’ sef dogfen Hybu Cig Cymru- Meat Promotion Wales, y glaslun amgylcheddol ar gyfer y sector da byw.
Dywedodd Tim Rowe sy’n Ymgynghorydd Technoleg Cig Castell Howell ac yn un o Gyfarwyddwyr Celtic Pride, “Rydym yn eithriadol o falch o allu gweithio gyda Cardiff Catering er mwyn creu bwydlen sydd â chynaliadwyedd yn ganolog iddi, ac o allu gweini Cig Eidion Cymreig PGI Celtic Pride yng nghinio cynhadledd Nuffield. Daeth y cig o fferm sydd ond saith milltir o ganol Caerdydd.”
Dywedodd fod cig coch yn rhan hanfodol o ddeiet iach, ac fel sy’n cael ei amlygu gan grŵp cynhyrchwyr Celtic Pride, mae hinsawdd Cymru a’r addasrwydd o ran dulliau ffermio yn golygu ei fod yn gynnyrch sydd wrth galon ymrwymiad a dyheadau’r sector o ran cynaliadwyedd.
Ychwanegodd Tim Rowe, “Mae Celtic Pride yn anelu at gynhyrchu cig eidion premiwm o gadwyn gyflenwi gât i’r plât sy’n hyrwyddo amaethu effeithlon a chynaliadwy, gan annog perthnasau gweithio agos yn y gadwyn fwyd o’r ffermwr i’r defnyddiwr.”
Dywedodd Mike Vacher, Cyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Ysgoloriaethau Ffermio Nuffield, “Roeddem y eithriadol o falch o gael cydweithio gyda Castell Howell ar gyfer ein Cinio Blynyddol a gynhaliwyd fel rhan o Gynhadledd Ffermio Nuffield 2022 yng Nghaerdydd.
“Fe lwyddon’ nhw i gydlynu nifer o gynhyrchwyr lleol er mwyn creu bwydlen pum cwrs bwrpasol a oedd yn arddangos amrywiaeth eang o gynnyrch Cymreig gwych gan ddarparwyr lleol sy’n ymrwymedig i gynhyrchu bwyd cynaliadwy. Roedd y gefnogaeth cyn y digwyddiad ac wrth iddo fynd yn ei flaen yn arbennig o dda, ac fe chwaraeon’ nhw rôl allweddol wrth greu cinio i’w gofio.”
- Popeth6085
-
Newyddion
5698
-
Addysg
2101
-
Hamdden
1854
-
Iaith
1607
-
Celfyddydau
1439
-
Amgylchedd
992
-
Gwleidyddiaeth
932
-
Iechyd
670
-
Llenyddiaeth
644
-
Cerddoriaeth
593
-
Arian a Busnes
523
-
Amaethyddiaeth
464
-
Bwyd
425
-
Chwaraeon
356
-
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
302
-
Gwyddoniaeth a Thechnoleg
268
-
Ar-lein
260
-
Eisteddfod yr Urdd
153
-
Hyfforddiant / Cyrsiau
60
-
Cystadlaethau
47
-
Barn
16
-
Adolygiadau Llyfrau
13
-
Papurau Bro
13
-
Teledu
6
-
Adolygiadau Cerddoriaeth
6
-
Sioe Frenhinol Cymru
3
-
Llythyron
3