Cracyr Nadoligaidd Albwm Candelas
Rhagfyr 11, 2014
Aeth gyrfa Candelas o nerth i nerth yn dilyn rhyddhau eu halbwm cyntaf, gyda chaneuon fel Anifail a Symud Ymlaen yn ffefrynnau bellach gyda thorfeydd ledled Cymru.
Ers yr haf, mae'r band wedi arwyddo i label I KA CHING gyda rhyddhau dwy sengl; Dim Cyfrinach a Cynt gan goroni'r flwyddyn gyda rhyddhau albwm Bodoli’n Ddistaw.
Aeth Lleol.cymru i holi'r canwr Osian Williams am yr albwm newydd sbon.
Disgrifiwch steil yr albwm yma?
Mae hi'n ddatblygiad naturiol o'r albwm gyntaf fyswn i'n ei ddweud.
Doedd 'ne ddim eistedd lawr i drafod beth fydde 'swn' yr ail albwm, natho' ni jysd cario mlaen i gyfansoddi a dyma oedd y canlyniad.
Mae hi'n albwm reit drwm hefo digon o riffs gitâr, ond hefo melodïau reit 'popy' wrach ar ben y budreddi.
Oes yna westeion ar yr albwm? Os felly, pwy?
Un syniad gafon ni ar gyfer yr albwm yma oedd cael gwestai ar un o'r caneuon.
Fe ddaeth Alys Williams i dop y rhestr yn eithaf buan ac roedd gen i gân wedi ei hanner chyfansoddi a fyddai bendant yn siwtio ei llais.
'Llwytha'r Gwn' ydi enw'r gân a hon sydd yn sefyll allan fwyaf o'r albwm yn fy marn i.
Dyma'r agosaf allith Candelas fynd at 'funk' dwi'n meddwl, a diolch i Alys Williams, mae'r gân wedi troi allan i fod yn well na'r disgwyl!
Beth am y clawr?
Dyma ni'n ffeindio artist reit unigryw o'r enw Alberto Seveso ar y we, ac felly fo sydd yn gyfrifol am y clawr.
Eidalwr ydio sy'n byw ym Mryste a dyma ni'n gofyn yn glên iddo os gawn ni brynu llun ganddo ar gyfer clawr ein hail albwm.
Dyma linc i weld mwy o'i waith anhygoel.
Sut brofiad oedd cynhyrchu ail albwm?
Gan ein bod wedi creu'r albwm mewn amser mor fyr, mae hi wedi bod yn broses reit braf.
Nathon ni fwcio'r stiwdio ar ddechrau'r haf ar gyfer diwedd Medi, felly roedd yn rhaid i ni gyfansoddi albwm cyfan tros yr haf.
Doedd 'ne ddim amser i feddwl am ganeuon am fisoedd ac roedd hyn yn broses newydd o weithio i ni fel band.
Roedd y pump ohonom yn y stiwdio am wythnos ar ein pennau ein hunain, felly roedd hwnnw yn amser gwerthfawr iawn i ni fel band sydd yn byw ar draws Cymru erbyn hyn!
Beth ydach chi isio 'Dolig?
Mi fyse mynd i chwarae gigs o amgylch Ewrop yn braf dwi'n meddwl, felly os oes yna hyrwyddwr yn darllen hefo digon o arian i fynd a ni o gwmpas Ewrop, cofiwch ffonio!... Neu 'wrach mi fyse gobeithio gwerthu lot o'r ail albwm yma yn bresant fwy realistig.
Beth yw uchafbwynt neu isafbwynt eleni? (nid o reidrwydd y band) ond yn gyffredinol.
Dwi'n meddwl fod gigs yr haf yn gyffredinol wedi bod yn uchafbwynt i ni.
Does 'ne ddim un yn sefyll allan ac mae hyn yn beth da dwi'n meddwl. Roedd bod yn y stiwdio am wythnos hefyd yn brofiad braf ac yn hollol wahanol i gigio.
Yn anffodus, fe wnes i golli fy nhad ym mis Mai eleni ac felly dyna'r isafbwynt yn amlwg, ond mae'r golled wedi fy ysbrydoli llawer ar gyfer yr albwm yma gan mai dim ond un peth oedd ar fy meddwl wrth gyfansoddi'r caneuon.
Bydd yr albwm yn cael ei lansio mewn gig arbennig nos Fercher, Rhagfyr 17eg yn Neuadd Buddug, Y Bala.
Gellir prynu tocynnau o wefan I KA CHING a siop Awen Meirion, Y Bala, am £4 yr un, neu am gynnig arbennig o £12 am docyn a chopi o’r albwm ar CD.
Os oes gennych chi ddatganiad neu newyddion am eich sefydliad neu fusnes yna danfonwch y manylion atom ni ac fe wnawn ni rhoi'r gair ar led. E-bostiwch datganiad@lleol.net
- Popeth6085
-
Newyddion
5698
-
Addysg
2101
-
Hamdden
1854
-
Iaith
1607
-
Celfyddydau
1439
-
Amgylchedd
992
-
Gwleidyddiaeth
932
-
Iechyd
670
-
Llenyddiaeth
644
-
Cerddoriaeth
593
-
Arian a Busnes
523
-
Amaethyddiaeth
464
-
Bwyd
425
-
Chwaraeon
356
-
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
302
-
Gwyddoniaeth a Thechnoleg
268
-
Ar-lein
260
-
Eisteddfod yr Urdd
153
-
Hyfforddiant / Cyrsiau
60
-
Cystadlaethau
47
-
Barn
16
-
Adolygiadau Llyfrau
13
-
Papurau Bro
13
-
Teledu
6
-
Adolygiadau Cerddoriaeth
6
-
Sioe Frenhinol Cymru
3
-
Llythyron
3