Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn lansio Gwobr y Gân Syr Bryn Terfel gwerth £15,000

Tachwedd 06, 2024

Fel rhan o’i ddathliadau pen-blwydd yn 75 oed mae Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn lansio gwobr y gân bwysig newydd mewn partneriaeth â Syr Bryn Terfel, un o gantorion opera a pherfformwyr caneuon uchaf ei barch yn y byd.

Mae Gwobr Cân newydd yn anrhydeddu treftadaeth Cymru ac yn hyrwyddo lleisiau ifanc amrywiol mewn canu byd-eang.

Bydd y Coleg yn cynnal Gwobr y Gân Syr Bryn Terfel gyntaf i gantorion ifanc ym mis Tachwedd 2025, a fydd yn agored i ddechrau i gantorion a enwebir gan gonservatoires y DU, gyda chynlluniau i ehangu hyn i gonservatoires rhyngwladol yn y dyfodol. Bydd y wobr a gynhelir bob dwy flynedd, ac sy’n werth £15,000, yn un o’r rhai mwyaf gwerthfawr yn unrhyw le yn y byd, ac fe’i dyfernir ar adeg drawsnewidiol pan fydd cantorion yn symud o astudiaethau gradd i gyrsiau ôl-radd a phan fydd ffynonellau cyllid yn fwy prin i barhau i hyfforddi.

Bydd gofyn i gystadleuwyr ganu o leiaf un gân yn Gymraeg ac un yn eu hiaith eu hunain, gan ddathlu pwysigrwydd canu wrth gynrychioli’r amrywiaeth gyfoethog o ddiwylliannau ar draws y byd, yn enwedig y Gymraeg, mamiaith Bryn.

Mae Bryn yn siarad yn angerddol am ganu a'i dreftadaeth ddiwylliannol. Yn dod o genedl sy’n enwog am ei chariad at ganu, ac wedi ennill Gwobr y Gân BBC Canwr y Byd Caerdydd ym 1989, mae’n arbennig o bwysig bod y wobr hon yn ei enw yn canolbwyntio ar y grefft sydd ei hangen ar y gân.

‘Mae Caneuon Cymraeg wedi bod yn rhan o fy mywyd ers pan oeddwn yn blentyn. Drwy gydol fy ngyrfa, yn ogystal â bod yn ddehonglwr balch o Lieder mawr yr Almaen, Chansons Ffrainc a’r Gân Saesneg, rydw i bob amser wedi hyrwyddo caneuon gwerin a chaneuon celf y genedl gerddorol hon.

Ond mae canu Cymraeg yn dal i fod yn rhywbeth sy’n weddol anhysbys tu allan i Gymru felly rwy’n llawn cyffro i gael rhannu’r perlau gwych hyn gyda chantorion newydd ac i ddefnyddio Cronfa Syr Bryn Terfel, fy Sefydliad newydd a phartneriaeth gyda Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, i’w cefnogi yn eu datblygiad fel artistiaid. Rwy’n gobeithio y bydd myfyrwyr yn dod i garu’r caneuon hyn, a hefyd canu yn Gymraeg, a byddant yn mynd hyn gyda hwy yn eu gyrfaoedd yn y dyfodol.’ 

Bryn Terfel, Is-lywydd, CBCDC

Bydd y rhai sy’n cyrraedd rownd derfynol Gwobr y Gân yn dod i’r Coleg ar gyfer cyfnod preswyl tri diwrnod wedi’i ariannu’n llawn, gyda rhaglen o ddosbarthiadau grŵp a dosbarthiadau meistr yn canolbwyntio ar y gân, testun a pherfformio gan staff a chymdeithion gan gynnwys amser gyda Bryn.

Cynhelir cyngerdd y gystadleuaeth yn Neuadd Dora Stoutzker CBCDC.

‘Fel conservatoire cenedlaethol Cymru rydym yn benderfynol o wneud yn siŵr bod pobl ifanc – o Gymru, y DU a hefyd yn rhyngwladol – yn deall popeth sydd gan y wlad hon a’r Coleg i’w gynnig iddynt os ydynt yn dewis astudio yma. Mae ehangu, hyrwyddo a rhannu’r Gymraeg a’r diwylliant Cymreig yn rhan bwysig o hyn a dyma’r man lle mae angerdd Bryn a ninnau’n dod ynghyd. Rydym wrth ein bodd ac wedi’n hysbrydoli i fod yn gweithio gydag ef i ddatblygu ei Gronfa er mwyn ariannu prosiectau, fel Gwobr y Gân, a fydd yn ein helpu i wneud hyn.’

Helena Gaunt, Pennaeth CBCDC

Fel rhan o’r ffocws hwn ar ddiwylliant a iaith Cymreig, mae'r Coleg wedi cyhoeddi bartneriaeth newydd gyda’r Urdd Gobaith Cymru (mudiad ieuenctid mwyaf Cymru), i greu cyfleoedd perfformio a datblygu ar gyfer rhai o ddoniau artistig mwyaf addawol Cymru.

Trwy'r bartneriaeth hon dewiswyd chwe pherfformiwr ifanc i fod yn Llysgenhadon Rhyngwladol Diwylliannol Ifanc yn yr ŵyl Gymraeg flynyddol, Eisteddfod yr Urdd.

Mae dau o’r enillwyr, Owain Rowlands ac Eiriana Jones-Campbell, yn fyfyrwyr presennol yn y Coleg.

‘Fel Cymro balch fy hun mae cael y cyfle i weithio gyda Syr Bryn i hyrwyddo diwylliant Cymreig i gantorion ledled y DU ac, yn y pen draw y byd, yn anrhydedd ac yn fraint. Mae ein cantorion ifanc wedi bod yn dysgu caneuon gan Meirion Williams i berfformio gyda Bryn fel rhan o’n dathliadau pen-blwydd yn 75 oed ac mae gennym gantorion o wledydd mor bell ag Awstralia, Hong Kong a’r Unol Daleithiau yn perfformio caneuon yn y Gymraeg. Mae’n bleser eu gweld yn syrthio mewn cariad â’r repertoire hwn, ac edrychaf ymlaen at weld dylanwad hyn yn lledaenu wrth i Wobr y Gân ddatblygu.’

Cyfarwyddwr Cerddoriaeth CBCDC, Tim Rhys-Evans

Mwy

GWELD POPETH

Mentera yn meithrin cefnogaeth ar gyfer maethu

Llwyfan i bobl ifanc Môn i leisio barn am newid hinsawdd

Cymro o Gaerfyrddin yn creu llwyfan digidol arloesol i wella addysg cyfrwng Gymraeg

  • Popeth6381
  • Newyddion
    5951
  • Addysg
    2136
  • Hamdden
    1869
  • Iaith
    1645
  • Celfyddydau
    1465
  • Amgylchedd
    1018
  • Gwleidyddiaeth
    932
  • Iechyd
    691
  • Llenyddiaeth
    646
  • Cerddoriaeth
    606
  • Arian a Busnes
    572
  • Amaethyddiaeth
    515
  • Bwyd
    456
  • Chwaraeon
    370
  • Eisteddfod Genedlaethol Cymru
    329
  • Gwyddoniaeth a Thechnoleg
    286
  • Ar-lein
    261
  • Eisteddfod yr Urdd
    184
  • Hyfforddiant / Cyrsiau
    85
  • Cystadlaethau
    47
  • Barn
    16
  • Papurau Bro
    14
  • Adolygiadau Llyfrau
    13
  • Teledu
    11
  • Adolygiadau Cerddoriaeth
    6
  • Sioe Frenhinol Cymru
    4
  • Llythyron
    3