Clwb Rygbi Crymych yn codi £36,500 er cof am Marc Beasley

Medi 02, 2024

Cafodd gêm rygbi ei chynnal yn Sir Benfro ddydd Sul 25 Awst er cof am Marc Beasley, chwaraewr annwyl a fu farw'n drasig yn gynharach eleni.

Bu farw Marc Beasley o Grymych yn 37 oed ar 15 Mawrth. Yn chwaraewr rygbiymroddedig, roedd Marc wedi bod yn aelod o Glwb Rygbi Crymych ers ei ddyddiau ysgol.

Cynhaliwyd y gêm goffa ddydd Sul ym Mharc Lloyd Thomas yng Nghrymych, gan ddenunifer anhygoel i gofio Mr Beasley. Bu hanner cant o chwaraewyr ar y cae yn nhîm Bois Beasley, gan gynrychioli aelodau presennol a chyn-aelodau’r clwb. Roedd pob chwaraewr yngwisgo crys glas arbennig yn symbol o amser Marc gyda’r tîm ieuenctid, wrth iddyn nhwwynebu tîm y Teirw.