Ceisiadau ar agor ar gyfer comisiwn celf cymunedol cyffrous

Chwefror 08, 2024

Fel rhan o  ailddatblygiad Cynllun Tai Gofal Ychwanegol Llys Awelon yn Rhuthun, mae cymdeithas dai Grŵp Cynefin yn chwilio am artist neu artistiaid lleol i greu darn unigryw o gelf i’w fwynhau gan y trigolion, y staff ac  ymwelwyr. 

Mae Grŵp Cynefin yn galw ar artistiaid o bob disgyblaeth i wneud cais am y comisiwn sylweddol, i'w gyflawni dros fisoedd Mehefin i Dachwedd eleni.

Mae  Llys Awelon yn dod i ddiwedd ailddatblygiad sylweddol  i foderneiddio ac ehangu’r adeilad presennol i greu cynllun carbon isel, pwrpasol o ansawdd uchel i ddiwallu anghenion pobl hŷn yn ardal Sir Ddinbych. Bydd 35 o fflatiau ychwanegol yn cael eu hychwanegu at y 21 cartref presennol. Mae’r cynllun yn bartneriaeth rhwng Grŵp Cynefin a Chyngor Sir Ddinbych,  gyda chyllid gan Lywodraeth Cymru.

Cwmni lleol, Read Construction, sy’n ail-ddatblygu’r safle. Fel rhan o gymal gwerth cymdeithasol eu cytundeb, maen nhw, ynghyd â Grŵp Cynefin yn ariannu’r prosiect celf cymunedol.

Yn ogystal â darn unigryw a deniadol o gelf, y nod yw  y bydd y broses greadigol ei hun yn brosiect cydweithredol a chynhwysol dan arweiniad yr artist neu’r artistiaid. Y gobaith yw dod â chenedlaethau iau a hŷn at ei gilydd drwy sesiynau gyda thrigolion presennol Llys Awelon a disgyblion o ysgol gynradd Ysgol Pen Barras yn Rhuthun. Mae elfen amgylcheddol a chynaliadwy hefyd yn cael ei annog.

“Mae’r broses o greu darn o gelf ar gyfer Llys Awelon yr un mor bwysig â’r darn celf gorffenedig,” meddai Ffion Pittendreigh, Rheolwr Mentrau Cymunedol Grŵp Cynefin.

“Rydyn ni am i’r broses fod yn gyffrous ac yn gywaith, gyda syniadau a chyfraniad gan y rhai sydd wedi gwneud Llys Awelon yn gartref, a phlant lleol. Mae gweithgareddau  pontio’r cenedlaethau bob amser yn cael ei annog gan Grŵp Cynefin gan eu bod mor fuddiol i bawb sy’n cymryd rhan. Ond mae dod â’r cenedlaethau hynny at ei gilydd i greu darn o gelf yn hynod gyffrous. Mae’n gomisiwn gwych i artist, neu artistiaid, gan y gallwn ystyried ceisiadau ar y cyd, ac rydym yn edrych ymlaen at ddyfarnu’r comisiwn yn fuan.”

Mae mwy o wybodaeth ar gael ar wefan Grŵp Cynefin gyda briff manwl, gwerth y contract a sut i wneud cais am y comisiwn. Y dyddiad cau yw dydd Iau, 29 Chwefror 2024, 12pm.

Mwy

GWELD POPETH

Teuluoedd yn dychwelyd adref diolch ARFOR: menter Ymgartrefu Llwyddo’n Lleol

Bwrdd Mentrau Iaith Cymru yn penodi pum cyfarwyddwr annibynnol newydd

Geraint Evans yw Prif Weithredwr newydd S4C

  • Popeth6387
  • Newyddion
    5957
  • Addysg
    2137
  • Hamdden
    1869
  • Iaith
    1646
  • Celfyddydau
    1465
  • Amgylchedd
    1019
  • Gwleidyddiaeth
    932
  • Iechyd
    692
  • Llenyddiaeth
    646
  • Cerddoriaeth
    606
  • Arian a Busnes
    574
  • Amaethyddiaeth
    517
  • Bwyd
    457
  • Chwaraeon
    370
  • Eisteddfod Genedlaethol Cymru
    329
  • Gwyddoniaeth a Thechnoleg
    286
  • Ar-lein
    261
  • Eisteddfod yr Urdd
    184
  • Hyfforddiant / Cyrsiau
    85
  • Cystadlaethau
    47
  • Barn
    16
  • Papurau Bro
    14
  • Adolygiadau Llyfrau
    13
  • Teledu
    11
  • Adolygiadau Cerddoriaeth
    6
  • Sioe Frenhinol Cymru
    4
  • Llythyron
    3