Cefnogaeth gan Tir Dewi i ffermwyr Cymru a’u hiechyd meddwl
Ionawr 18, 2024
Roedd Tir Dewi yn awyddus i leihau ynysrwydd ymysg pobl sy’n gweithio yn y diwydiant amaeth wrth sefydlu’r clybiau, a gwella’u hiechyd meddwl a lles yn sgil hynny. Derbyniodd y sefydliad grant o £8,850 gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol i gynorthwyo gyda’r gwaith.
Dywedodd Ceinwen Parry, cydlynydd y clybiau, “Mae llawer o ffermwyr ac aelodau o’u teuluoedd wedi bod yn aelodau o Glybiau Ffermwyr Ifanc (CFfI), sef clybiau i bobl ifanc rhwng 10 a 28 oed. Mae CFfI yn rhoi cyfleoedd i bobl ifanc gymdeithasu a chystadlu gyda’i gilydd, ac yn rhoi rheswm iddyn nhw adael y fferm yn gyson a bod yn rhan o gymuned ehangach.
“Wedi gadael CFfI, does dim clybiau tebyg ar gael i’r bobl ifanc ac maen nhw’n dychwelyd i’r fferm i weithio oriau hir mewn awyrgylch brysur, yn aml dan bwysau. Mae ffermio yn gallu bod yn waith unig ac anghymdeithasol iawn.
“Ein syniad ni felly oedd i greu clwb i ffermwyr dros 28 a’u teuluoedd fel bod ganddyn nhw reswm i godi allan a chyfarfod pobl eraill o’r gymuned amaethyddol, ac yn bwysicach na dim, cael cyfle i siarad. Mae ffermwyr sydd wedi ymddeol hefyd yn mwynhau dod gan ei fod yn lle da i gadw mewn cysylltiad gyda phobl o’r un cefndir a phrofiad â nhw.”
Sefydlwyd y Clwb Ffermwyr cyntaf yn Ynys Môn yn 2022. Mae’r clwb yn cwrdd unwaith y mis mewn lleoliadau amrywiol ar yr ynys ac mae tua 30-35 yn dod i’r clwb yn gyson, gyda dros 70 yn mynychu ambell weithgaredd. Trefnir nosweithiau amrywiol a difyr i’r aelodau – yn weithgareddau hwyliog fel saethu bwa saeth, noson pŵl a dartiau neu ymweliadau fferm. Daw unigolion o sefydliadau amaethyddol fel EID Cymru, Cyswllt Ffermio neu filfeddygon i siarad ambell fis hefyd ac mae clywed ganddyn nhw am wybodaeth bwysig neu newidiadau yn gallu codi baich yn aml yn ôl yr aelodau. Gall y ffermwyr ofyn cwestiynau a thrafod yn agored yn y clwb heb boeni a hel meddyliau gartref.
Yn sgil llwyddiant y Clwb Ffermwyr yn Ynys Môn, mae Tir Dewi wedi mynd ati i sefydlu clybiau mewn ardaloedd eraill o Gymru. Mae rhai wedi eu sefydlu erbyn hyn ym Mhen Llŷn a Chlwyd, ac mae ardaloedd Caernarfon a Chonwy wedi dangos diddordeb mewn sefydlu clybiau yn lleol, felly mae’n gyfnod cyffrous wrth i’r cynllun ddatblygu. Y bwriad yn y pen draw ydy i bob clwb gael dau o swyddogion – trysorydd ac ysgrifennydd – a fydd yn gyfrifol am eu clwb lleol ac yn cael eu cefnogi gan Tir Dewi a’r Clwb Ffermwyr.
Yn ôl Ceinwen Parry, “Mae ynysrwydd yn gallu bod yn broblem fawr yn y byd amaeth – oni bai bod rheswm da i adael y fferm, mae ffermwyr yn aml yn aros gartref. Mae’r Clwb Ffermwyr yn rhoi rheswm iddyn nhw adael y fferm; yn rhoi cyfle i gymdeithasu, sgwrsio, chwerthin a chael hwyl, a weithiau i ddysgu.
“Mae cymaint o’r llefydd traddodiadol y byddai ffermwyr yn arfer cyfarfod wedi diflannu – llawer o gapeli ac eglwysi wedi cau, tafarndai lleol yn fwy prin, ac mae’r marchnadoedd da byw hyd yn oed wedi newid eu ffordd o weithredu ers Covid-19, felly mae ffermwyr yn treulio llai o amser yno erbyn hyn hefyd.
“Pwrpas y Clybiau Ffermwyr yn syml ydy i ddarparu lle i’r ffermwyr fynd. Hyd yn oed os mai dim ond dwsin ddaw i ambell noson am ba bynnag reswm, mae’r dwsin hynny wedi codi allan ac mae’r clwb a’r gwmnïaeth wedi eu helpu nhw hefo unigrwydd – ac mae hynny mor bwysig.”
Dywedodd Nia Hughes, Swyddog Ariannu yng ngogledd Cymru i Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, “Rydyn ni’n falch iawn o allu cefnogi’r project hwn, diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol. Mae cymuned wrth galon ein pwrpas, ein gweledigaeth a’n henw a does dim dwywaith fod Tir Dewi yn gwneud gwaith gwych yn dod â’r gymuned amaethyddol ynghyd a’u cefnogi o ran iechyd meddwl a lles. Edrychwn ymlaen at weld y project yn datblygu dros y blynyddoedd nesaf.”
Grant Arian i Bawb y Loteri Genedlaethol oedd y £8,850 dderbyniodd Tir Dewi i sefydlu’r Clybiau Ffermwyr. Mae’r rhaglen honno wedi newid yn ddiweddar i helpu i roi cysylltiadau cymdeithasol a gweithgareddau cymunedol wrth galon creu bywydau iachach a hapusach ledled Cymru. Bydd y newidiadau hyn yn rhoi mwy o sefydlogrwydd ariannol a sicrwydd tymor hirach i brojectau.
Gall grwpiau cymunedol ac elusennau nawr:
- ymgeisio am gyllid rhwng £300 a £20,000 i gefnogi eu project, cynnydd o'r uchafswm blaenorol o £10,000;
- cael cyllid am hyd at ddwy flynedd, yn hytrach nag un;
- dal un grant Arian i Bawb y Loteri Genedlaethol yn unig ar y tro.
Am fwy o wybodaeth am grantiau Arian i Bawb y Loteri Genedlaethol a sut i ymgeisio, ewch yma.
- Popeth6381
-
Newyddion
5951
-
Addysg
2136
-
Hamdden
1869
-
Iaith
1645
-
Celfyddydau
1465
-
Amgylchedd
1018
-
Gwleidyddiaeth
932
-
Iechyd
691
-
Llenyddiaeth
646
-
Cerddoriaeth
606
-
Arian a Busnes
572
-
Amaethyddiaeth
515
-
Bwyd
456
-
Chwaraeon
370
-
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
329
-
Gwyddoniaeth a Thechnoleg
286
-
Ar-lein
261
-
Eisteddfod yr Urdd
184
-
Hyfforddiant / Cyrsiau
85
-
Cystadlaethau
47
-
Barn
16
-
Papurau Bro
14
-
Adolygiadau Llyfrau
13
-
Teledu
11
-
Adolygiadau Cerddoriaeth
6
-
Sioe Frenhinol Cymru
4
-
Llythyron
3