Cefnogaeth Cyswllt Ffermio yn sicrhau llwyddiant menter pwmpenni
Tachwedd 21, 2024
Mae Cyswllt Ffermio wedi darparu cyngor a chyllid wedi i Matt Brooks a Laura Pollock benderfynu ehangu eu menter 114 erw i faes garddwriaeth.
Cymerodd y pâr denantiaeth ar un o ffermydd Cyngor Sir Fynwy, Lower House Farm, yn Llanfair Disgoed ym mis Chwefror 2023.
Nid oedd gan yr un ohonynt gefndir teuluol mewn ffermio, ond roedd Matt wedi gweithio ym myd amaeth ers gadael yr ysgol ac roedd ganddo uchelgais i ffermio ar ei liwt ei hun. Roedd gyrfa Laura yn canolbwyntio ar seicoleg busnes a datblygu timau, ond roedd yn rhannu angerdd Matt dros gynhyrchu bwyd.
“Nid oeddem yn sylweddoli ar y pryd bod ffermydd tenant yn bodoli, ac fe agorodd hyn ddrysau i gyfle newydd i ni ddechrau ffermio, felly fe wnaethom ni ddechrau ymgeisio am denantiaethau,” eglurodd Laura.