Canolfan S4C Yr Egin ar restr fer Gwobrau Partneriaid Gwerthfawr Gyrfa Cymru
Tachwedd 13, 2023
Mae’r Egin wedi cael ei henwebu i’r categori ‘Hyrwyddwr Gorau’r Gymraeg yn y gweithle’ oherwydd y gwaith y maen nhw’n ei wneud i ddarparu cymorth gyrfaoedd i ddisgyblion mewn ysgolion lleol drwy gyfrwng y Gymraeg, yn ogystal a dangos ei bwriad fel hwb i fusnesau creadigol a digidol i gydnabod gwerth y Gymraeg fel sgil ar gyfer y gweithle ac i gymryd rhan mewn digwyddiadau sy’n hybu pwysigrwydd y Gymraeg yn y gweithle.
Mae’r seremoni wobrwyo hon yn gyfle i Gyrfa Cymru gydnabod a diolch i’r busnesau sydd wedi gweithio gyda nhw yn ystod y flwyddyn mewn digwyddiad arbennig. . Mae’r gwobrau’n cael eu noddi gan Weinidog yr Economi, Vaughan Gething, a byddant yn cael eu cynnal ar Dachwedd 22ain
Dywedodd Nikki Lawrence, Prif Weithredwr Gyrfa Cymru:
“Llongyfarchiadau i Ganolfan S4C Yr Egin am gyrraedd rhestr fer Gwobr Partneriaid Gwerthfawr 2023.
“Mae gweithio gydag ysgolion i ddarparu cymorth gyrfaoedd gwerthfawr yn helpu i ysbrydoli ac ysgogi cenhedlaeth iau, sef gweithlu’r dyfodol yng Nghymru.
“Rydym yn edrych ymlaen at groesawu Yr Egin i’r seremoni wobrwyo arbennig yn adeilad y Pierhead eleni ac yn dymuno pob lwc i bawb.”
Mae’r Egin, sy’n gartref i dros 16 o fusnesau wedi bod yn cynnal nifer o ddiwrnodau agored gyda ysgolion Sir Gaerfyrddin er mwyn iddynt fedru cael mewnwelediad i’r hyn sydd gan y diwydiannau creadigol i'w gynnig a llwybrau gyrfa posibl. Un o’r ysgolion hynny yw Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin. Dywedodd Eirlys Thomas, Pennaeth Cynorthwyol yr ysgol:
“Rydym ni yma yn ysgol Bro Myrddin yn ddiolchgar iawn o'r profiadau tu hwnt o werthfawr a gafwyd gan ein disgyblion Blwyddyn 9 a Blwyddyn 12 ar eu hymweliadau i'r Egin. Roedd arlwy llawn o weithgareddau wedi eu trefnu ar eu cyfer megis sgriptio a chyfieithu ar y pryd yn ogystal a chyflwyniadau gan gynrychiolwyr o S4C, Afanti a chyn-ddisgyblion sydd bellach yn rhan o'r tîm yn yr Egin. Roedd yn gyfle gwych i godi ymwybyddiaeth o'r mathau gwahanol o yrfau a ellir eu gwneud drwy gyfrwng y Gymraeg yma yng Nghaerfyrddin.”
Bwriad y seremoni yw i ddathlu’r gwaith y mae cyflogwyr wedi’i wneud i helpu ysgolion a phobl ifanc i ymgysylltu â’r byd gwaith. Mae partneriaethau rhwng busnesau ac ysgolion yn rhoi ysbrydoliaeth a chymhelliant i bobl ifanc. Mae gwybodaeth a phrofiadau gwerthfawr sy'n gysylltiedig â gwaith yn helpu pobl ifanc i gysylltu'r hyn y maent yn ei ddysgu yn yr ysgol â’r byd gwaith.
Meddai Llinos Jones, Swyddog Ymgysylltu Yr Egin:
“Rydym wrth ein boddau o gael ein henwebu am wobr Partneriaid Gwerthfawr Gyrfa Cymru, Un o brif amcanion Yr Egin yw i feithrin talent y dyfodol, drwy gynnal digwyddiadau a hyrwyddo gyrfaoedd mae modd codi ymwybyddiaeth ymhlith pobl ifanc o’r holl gyfleon sydd ar gael iddynt yn y diwydiannau creadigol, yn Sir Gâr, a hynny yn y Gymraeg.
“Diolch o galon i bawb rydym wedi cydweithio â hwy, rydym wedi datblygu partneriaethau gyda â Gyrfa Cymru, Tîm Ehangu Mynediad Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, ac amryw o gwmnïau creadigol a digidol sydd wedi eu lleoli yma yn Yr Egin er budd disgyblion ysgol ac effeithio’n gadarnhaol ar y Gymraeg."
- Popeth6374
-
Newyddion
5944
-
Addysg
2134
-
Hamdden
1869
-
Iaith
1643
-
Celfyddydau
1464
-
Amgylchedd
1016
-
Gwleidyddiaeth
932
-
Iechyd
690
-
Llenyddiaeth
646
-
Cerddoriaeth
606
-
Arian a Busnes
569
-
Amaethyddiaeth
513
-
Bwyd
456
-
Chwaraeon
370
-
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
329
-
Gwyddoniaeth a Thechnoleg
285
-
Ar-lein
261
-
Eisteddfod yr Urdd
184
-
Hyfforddiant / Cyrsiau
83
-
Cystadlaethau
47
-
Barn
16
-
Papurau Bro
14
-
Adolygiadau Llyfrau
13
-
Teledu
11
-
Adolygiadau Cerddoriaeth
6
-
Sioe Frenhinol Cymru
4
-
Llythyron
3