Cais cynllunio BOUYGUES UK ar gyfer Hwb Caerfyrddin wedi’i gyflwyno i’r Cyngor ac ar agor i’r cyhoedd
Tachwedd 18, 2022
Bouygues UK yw'r cynigydd a ffefrir ar gyfer prosiect Hwb, sef prosiect cydweithredol rhwng Cyngor Sir Caerfyrddin, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant. Mae'r prosiect wedi'i ariannu gan Gronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y DU. Pan fydd ar agor i'r cyhoedd, mae disgwyl i'r lle gynyddu nifer yr ymwelwyr a hybu gwydnwch economaidd canol y dref.
Dyma gam nesaf y broses gynllunio. Cafodd Tystysgrif Cydymffurfiaeth ar gyfer Newid Defnydd yr adeilad ei gymeradwyo dan Orchymyn Datblygu Lleol y Cyngor Sir ym mis Gorffennaf. Mae'r cais newydd hwn yn ymwneud â'r gwaith allanol sydd ei angen i hwyluso'r newidiadau i'r adeilad.
Bydd yr Hwb yn fan cyhoeddus a fydd yn hyrwyddo llesiant a gofal iechyd ataliol. Bydd yno gymorth cyflogaeth a chyfleoedd dysgu gydol oes, campfa, a rhai casgliadau o amgueddfeydd y sir mewn gofod hamdden, diwylliant ac arddangosfa o'r radd flaenaf.
Bydd yr Hwb hefyd yn darparu gwybodaeth i dwristiaid, gwasanaethau cwsmeriaid a mynediad at addysg bellach ac addysg uwch a ddarperir gan Grŵp y Drindod Dewi Sant, sy'n cynnwys Coleg Sir Gâr a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.
Fe wnaeth siop Debenhams yn Rhodfa'r Santes Catrin gau ym mis Mai 2021, ac mae wedi bod ar gau ers hynny, gan effeithio ar y niferoedd sy'n ymweld â chanol y dref. Yr Hwb newydd hwn fydd y cyntaf o'i fath yn Sir Gaerfyrddin. Bydd yr Hwb yn annog mwy o bobl i ddod i ganol y dref drwy gael gwasanaethau cyhoeddus o dan yr un to.
Dyma oedd gan John Boughton, Rheolwr Gyfarwyddwr Cymru a'r De-orllewin ar gyfer Bouygues UK, i'w ddweud am y datblygiad: “Mae Bouygues UK yn falch o fod yn gweithio ar yr ailddatblygiad pwysig hwn a fydd yn golygu bydd gofod masnachol o bron i 6,000 metr sgwâr yng nghanol tref Caerfyrddin yn cael ei ddefnyddio'n ddyddiol unwaith eto.
“Mae'r datblygiadau Hwb hyn wedi bod yn boblogaidd iawn o ran canoli gwasanaethau cyhoeddus mewn ardaloedd sy'n hawdd i'w cyrraedd ar drafnidiaeth gyhoeddus, ac mae hon yn enghraifft berffaith o hynny. Mae Caerfyrddin o bwys strategol i'r sir, ac felly'n brif ganolfan i'r rhai sy'n byw yn y rhanbarth. Bydd yn adnodd anhygoel i'r ardal ac yn caniatáu i bobl gael mynediad at sawl gwasanaeth cyhoeddus, diolch i'r bartneriaeth unigryw hon rhwng y sectorau cyhoeddus, iechyd ac addysg. Rydym yn edrych ymlaen at ymestyn ein cyfraniad gwerth cymdeithasol yn yr ardal trwy ddarparu cyflogaeth, sgiliau a hyfforddiant i bobl leol.”
Dywedodd y Cynghorydd Gareth John, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth: "Mae Bouygues UK bellach wedi cyflwyno'r cais cynllunio i ailddatblygu hen adeilad Debenhams yn Rhodfa'r Santes Catrin a fydd, o'i gymeradwyo, yn darparu amrywiaeth o wasanaethau cyhoeddus o dan yr un to. Gan weithio mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, ein bwriad yw sicrhau bod y prif ofod masnachol hwn yn cael ei ddefnyddio unwaith yn rhagor, er mwyn helpu i roi hwb i'r economi leol a thrawsnewid canol y dref.
"Bydd pobl yn gallu galw heibio yn Hwb Caerfyrddin i gael mynediad at wasanaethau iechyd, cymorth cyflogaeth a gwasanaethau cyhoeddus, cyfleusterau'r brifysgol, cyfleoedd dysgu gydol oes, a champfa."
“Bydd yr adeilad hwn hefyd yn darparu cartref mwy canolog i rai o'n casgliadau amgueddfeydd, gyda gofod arddangos, ac yn fan i groesawu ymwelwyr â'r dref. Mae'n bwysig bod yr ailddatblygiad hwn yn ychwanegu gwerth i'r cynnyrch a'r gwasanaethau sydd ar gael yng Nghaerfyrddin yn barod.”
- Popeth6228
-
Newyddion
5809
-
Addysg
2118
-
Hamdden
1860
-
Iaith
1623
-
Celfyddydau
1448
-
Amgylchedd
999
-
Gwleidyddiaeth
932
-
Iechyd
677
-
Llenyddiaeth
645
-
Cerddoriaeth
600
-
Arian a Busnes
545
-
Amaethyddiaeth
481
-
Bwyd
445
-
Chwaraeon
366
-
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
320
-
Gwyddoniaeth a Thechnoleg
272
-
Ar-lein
261
-
Eisteddfod yr Urdd
176
-
Hyfforddiant / Cyrsiau
66
-
Cystadlaethau
47
-
Barn
16
-
Papurau Bro
14
-
Adolygiadau Llyfrau
13
-
Teledu
11
-
Adolygiadau Cerddoriaeth
6
-
Sioe Frenhinol Cymru
3
-
Llythyron
3