Bwrdd Mentrau Iaith Cymru yn penodi pum cyfarwyddwr annibynnol newydd
Tachwedd 27, 2024
Sefydlwyd Mentrau Iaith Cymru (MIC) yn 1999 gan fod y Mentrau Iaith lleol wedi adnabod yr angen i gyfarfod ar lefel genedlaethol i rannu profiadau a chydweithio.
Chwarter canrif yn ddiweddarach, mae MIC yn gorff ymbarél cenedlaethol sy’n cynnal rhwydwaith genedlaethol i’r Mentrau, yn darparu cymorth a chefnogaeth iddynt, yn eirioli ar eu rhan ac yn darparu llais a phresenoldeb cenedlaethol iddynt. Mae MIC hefyd yn cydlynu prosiectau cenedlaethol blynyddol o fewn y Mentrau, fel Cwis Dim Clem a’r Cwis Mawr, ac yn rheoli prosiectau cenedlaethol i uchafu’r gweithgarwch ar lefel leol, ond ar raddfa ranbarthol neu’n genedlaethol.
Yn hanesyddol staff ac aelodau byrddau rheoli’r Mentrau oedd cyfarwyddwyr MIC, ond erbyn heddiw, gwelwyd yr angen am wrthrychedd a syniadau ffres i’r gwaith ac aed ati yn dilyn adroddiad annibynnol ar lywodraethiant MIC i sefydlu Bwrdd newydd.
Y pum cyfarwyddwr newydd yw:
Llinos Evans, sydd â'i gwreiddiau'n ddwfn yn sir Gâr, ac yn gweithio yn y maes polisi a chydraddoldeb yn y sir honno.
Katharine Young, sy’n dod o Loegr yn wreiddiol, wedi ei magu yng Ngwynedd, bellach yn byw yng Nghaerdydd, ac yn darlithio i Brifysgol Metropolitan Caerdydd.
Hawys Roberts, sy’n byw yng Ngheredigion ac yn gweithio i Gomisiynydd y Gymraeg.
Ffion Gruffudd, sy’n dod o Gwrtnewydd, yn byw yng Nghaerdydd ac yn gweithio i Gyngor Dinas Caerdydd.
Sara Pennant Jones, sydd wedi ei geni a’u magu yng Ngwynedd, bellach yn byw yng Nghaerdydd ac yn gweithio i Estyn.
Fe fydd y 5 yn ymuno gyda 6 cyfarwyddwr presennol Mentrau Iaith Cymru sy’n cynrychioli’r
3 dair rhanbarth:
Dewi Snelson - Menter Gorllewin Sir Gâr,
Owain Gruffydd - Menter Dinefwr,
Meirion Davies – Menter Iaith Conwy,
Maiwenn Berry - Menter Iaith Fflint a Wrecsam,
Lowri Jones – Menter Iaith Sir Caerffili,
Osian Rowlands – Menter Iaith Rhondda Cynon Taf.
Yn ôl Myfanwy Jones, Cyfarwyddwr gweithredol MIC, ‘Roeddwn ni wrth ein boddau gyda’r diddordeb yn y broses hon ac wedi ein syfrdanu gan ansawdd y ceisiadau. Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at gael cydweithio gyda'r criw brwdfrydig yma ac yn ffyddiog eu bod yn darparu cyfuniad o brofiad a newydd-deb i waith y rhwydwaith a fydd yn ein cynorthwyo i barhau i gynyddu defnydd pobl o’r Gymraeg yn ein cymunedau.
- Popeth6408
-
Newyddion
5976
-
Addysg
2140
-
Hamdden
1870
-
Iaith
1653
-
Celfyddydau
1468
-
Amgylchedd
1023
-
Gwleidyddiaeth
932
-
Iechyd
693
-
Llenyddiaeth
646
-
Cerddoriaeth
606
-
Arian a Busnes
578
-
Amaethyddiaeth
522
-
Bwyd
457
-
Chwaraeon
370
-
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
329
-
Gwyddoniaeth a Thechnoleg
286
-
Ar-lein
261
-
Eisteddfod yr Urdd
185
-
Hyfforddiant / Cyrsiau
91
-
Cystadlaethau
47
-
Barn
16
-
Papurau Bro
14
-
Adolygiadau Llyfrau
13
-
Teledu
11
-
Adolygiadau Cerddoriaeth
6
-
Sioe Frenhinol Cymru
4
-
Llythyron
3