Arolwg Porthaethwy i fesur effaith ar ganol y dref
Tachwedd 18, 2022
Cafodd Pont Borth ar yr A5 ei chau i’r holl draffig yn ddiweddar a hynny ar unwaith ar 21 Hydref. Gwnaed y penderfyniad gan Lywodraeth Cymru er mwyn sicrhau diogelwch y cyhoedd ar ôl i risgiau difrifol gael eu hadnabod ac i beirianwyr strwythurol argymell cau’r bont.
Er bod y bont wedi cau, mae siopau a busnesau dal i fod ar agor a wir angen cefnogaeth siopwyr lleol.
Mae Cyngor Sir Ynys Môn bellach wedi paratoi arolwg ar-lein er mwyn i fusnesau allu dweud eu dweud yn dilyn adroddiadau bod llai o bobl yn mynychu’r dref ac felly bod busnesau ar eu colled.
Gobeithir y bydd y data a ddarperir yn yr arolwg yn cryfhau achos y Cyngor er mwyn gallu cael cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru er mwyn ceisio cefnogi’r busnesau lleol.
Bydd mwy na 80 o fusnesau lleol yn cael eu cysylltu â nhw yn uniongyrchol er mwyn gofyn iddynt lenwi’r arolwg ar-lein drwy ddarparu gwybodaeth am y ffordd mae eu busnesau wedi eu heffeithio arnynt ac i ba raddau.
Dywedodd y Cynghorydd Carwyn Jones, Dirprwy Arweinydd y Cyngor, sydd hefyd yn ddeilydd portffolio Datblygiad Economaidd. “Mae Pont Borth yn gysylltiad hanfodol wrth deithio i ganol y dref. Er bod y bont ar gau – mae siopau’r dref dal i fod ar agor wrth gwrs ac angen ein cefnogaeth.”
“Mae busnesau lleol wedi adrodd gostyngiad yn nifer y bobl sy’n ymweld â nhw ers cau’r bont. Rydym yn gobeithio y bydd yr arolwg hwn yn hanfodol er mwyn gweld pa effaith mae hyn wedi’i gael ar siopau a busnesau yn y dref.”
Ychwanegodd, “Rydym eisoes yn cynnal trafodaethau â chydweithwyr yn Llywodraeth Cymru o ran yr effaith mae cau’r bont wedi cael ar fusnesau lleol. Mae Busnes Cymru hefyd yn cynorthwyo busnesau yn y dref. Gobeithiwn y bydd yr arolwg ar-lein yn darparu gwybodaeth am yr effaith ar fusnesau a’n helpu ni greu achos ar gyfer ymyrraeth bellach, os oes angen. Byddwn felly yn annog busnesu lleol i’w lenwi cyn gynted â phosibl.”
Mae’r Cyngor Sir yn gweithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, Menter Môn, Cyngor Tref Porthaethwy, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Phrifysgol Bangor er mwyn lleihau effaith cau’r bont.
Gall busnesau Porthaethwy ofyn am ddolen i’r arolwg ar-lein drwy anfon neges at DatEcon@ynysmon.llyw.cymru os na fyddant yn derbyn un yn uniongyrchol i’w cyfeiriad e-bost erbyn Tachwedd 21ain.
- Popeth6260
-
Newyddion
5841
-
Addysg
2125
-
Hamdden
1861
-
Iaith
1631
-
Celfyddydau
1451
-
Amgylchedd
1001
-
Gwleidyddiaeth
932
-
Iechyd
680
-
Llenyddiaeth
645
-
Cerddoriaeth
600
-
Arian a Busnes
550
-
Amaethyddiaeth
487
-
Bwyd
448
-
Chwaraeon
366
-
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
320
-
Gwyddoniaeth a Thechnoleg
277
-
Ar-lein
261
-
Eisteddfod yr Urdd
176
-
Hyfforddiant / Cyrsiau
72
-
Cystadlaethau
47
-
Barn
16
-
Papurau Bro
14
-
Adolygiadau Llyfrau
13
-
Teledu
11
-
Adolygiadau Cerddoriaeth
6
-
Sioe Frenhinol Cymru
3
-
Llythyron
3