Arian y Loteri Genedlaethol yn cyfrannu at nerth a gwerth cymuned
Tachwedd 16, 2023
Mae Nerth Dy Ben yn ymgyrch drwy gyfrwng y Gymraeg sy’n hybu sgwrs a chodi ymwybyddiaeth o rym a dylanwad y meddwl. Criw o chwe gwirfoddolwr ddaeth at ei gilydd yn y lle cyntaf wedi i Alaw Owen, y sylfaenydd, gael y syniad a’r weledigaeth yn dilyn damwain car ddifrifol. Sylweddolodd Alaw fod gennym i gyd nerth i ganolbwyntio ar gryfder yn hytrach na gwendid, a’i fod yn rhywbeth rydyn ni yn ei gario gyda ni bob dydd, heb fod yn ymwybodol o hynny na’i gydnabod.
Dywedodd Alaw, “’Dan ni’n byw mewn byd a chymdeithas lle mae’r pwyslais ar y negyddol yn aml. Yn naturiol, mae hyn yn dylanwadu ar y ffordd ’dan ni’n gweld y byd, a’r ffordd dan ni’n ymateb ac yn byw ein bywydau o ddydd i ddydd.
“Mi ddaeth Nerth Dy Ben fel syniad i mi pan ges i’r sylweddoliad mai fi yn unig sy’n gyfrifol am yr hyn dwi’n bwydo fy nghorff a’r meddwl a bod gen i’r gallu a’r pŵer i ganolbwyntio ar y nerth cadarnhaol a phositif yn fy mhen, a chanolbwyntio ar yr hyn roeddwn i’n gallu ei wneud yn hytrach na’r hyn roeddwn i wedi ei golli neu’n methu ei wneud bellach.
“Doeddwn i ddim yn teimlo ar y pryd fod unrhyw beth yn y Gymraeg yn rhoi platfform i ni rannu a dathlu y pethau positif sy’n ein gwneud ni’n gryf fel cymuned ac unigolion, sydd yn y pen draw yn gallu dylanwadu ar ansawdd y meddwl. A dyma ddechrau Nerth dy Ben.”
Mae Nerth Dy Ben yn cynnig lle i rannu gwahanol gryfderau pobl ac i ysbrydoli unigolion a'r gymuned wledig i gydnabod a dathlu llwyddiannau, a hynny drwy gyfrwng y Gymraeg. Diolch i gefnogaeth werthfawr Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, mae Nerth dy Ben yn cael y cyfle i ddatblygu’r gwaith mae wedi’i wneud ers ei sefydlu ym mis Chwefror 2021.
Y bwriad ydy parhau i gynnal digwyddiadau amrywiol ac adloniannol gan ehangu ar y ddarpariaeth bresennol. Bydd Nerth dy Ben hefyd yn canolbwyntio ar greu sgyrsiau sy’n cylchdroi o amgylch sgiliau, asedau a rhinweddau pobl, yn rhannu cynnwys digidol sy’n dylanwadu ar newid a phersbectif, ac yn edrych ar gyfleoedd i gydweithio gyda rhwydwaith o bartneriaid sy’n cyd-fynd â dyheadau yr ymgyrch a’r gymuned.
Yn ogystal, mae Nerth dy Ben yn hysbysebu ei swydd ran-amser gyflogedig gyntaf, diolch i gefnogaeth y grant Pawb a’i Le gan y Loteri Genedlaethol. Maen nhw’n chwilio am Swyddog Datblygu brwdfrydig i ymuno â’u tim angerddol.
Un o gyfarwyddwyr y cwmni ydy Elen Jones, ac mae hi’n pwysleisio y bydd y swydd yn allweddol i ddatblygiad ymgyrch y cwmni dros y dair mlynedd nesaf:
“Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am reolaeth effeithiol Nerth dy Ben o ddydd i ddydd, gan gynnwys gweithredu a diweddaru cynllun busnes y sefydliad i sicrhau bod Nerth dy Ben yn datblygu mewn modd rhagweithiol a chreadigol.”
Pobl o fewn y gymuned ydy asgwrn cefn Nerth dy Ben yn ôl Alaw, a bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio’n helaeth gyda’r gymuned leol yn ardal Conwy a Sir Ddinbych:
“Mae’n hollbwysig i ni fod ein projectau yn cael eu siapio a’u harwain gan safbwyntiau ac anghenion pobl yn y gymuned, gyda’r gobaith o gyfrannu tuag at greu cymunedau cryfach ac unigolion hyderus sy'n deall eu hunain ac yn sylweddoli beth yw eu potensial. ’Dan ni’n hynod o ddiolchgar am gefnogaeth y Loteri Genedlaethol, ac am waith diflino y Swyddog Ariannu lleol, Eirian Jones, yn ein harwain ni drwy’r cwbl a chredu yn ein gweledigaeth.”
Dywedodd Eirian Jones o Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol: “Mae'r Gronfa’n ymrwymo i gefnogi projectau fel Nerth dy Ben sy'n dod â phobl ynghyd yn eu cymunedau a chreu cysylltiadau cymdeithasol cryfach. Rydyn ni’n falch o allu eu cefnogi i ehangu ar y ddarpariaeth hollbwysig maen nhw’n ei gynnig i bobl yng nghymunedau gwledig gogledd Cymru, a hynny trwy gyfrwng y Gymraeg.”
Yn ôl Alaw, “Mae ymateb y gymuned i weithgaredd a fformat Nerth dy Ben wedi dangos bod galw ac angen am weithgarwch a sgyrsiau sy’n buddsoddi yn ein hyder ni fel unigolion a dathlu ein cryfderau o fewn cymunedau ac yn ehangach. Heb os, mae gennym gymuned arbennig a thrawstoriad eang o sgiliau a thalentau amrywiol. Mae’n gymuned sy’n gallu addasu drwy’r amser ac ymateb i heriau gwaith a bywyd hefo dyfeisgarwch a dyfalbarhad.
“’Dan ni’n credu bod gennym ni i gyd y gallu i arwain ar wella'n bywydau a’n cymunedau, ac y dylai pob unigolyn gymryd y pŵer yn ôl i’w ddwylo ei hun a defnyddio nerth y pen. ’Dan ni wedi cyffroi’n lân i gael y cyfle a’r gefnogaeth i ymateb i’r galw a pharhau â’r gwaith pwysig hwn.”
Os oes gennych ddiddordeb mewn gwybod mwy am y swydd Swyddog Datblygu, ewch yma. Dyddiad cau: 20 Tachwedd 2023
Am fwy o wybodaeth am grantiau Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol a sut i ymgeisio, ewch i www.cronfagymunedolylg.org.uk
- Popeth6363
-
Newyddion
5933
-
Addysg
2133
-
Hamdden
1868
-
Iaith
1641
-
Celfyddydau
1460
-
Amgylchedd
1015
-
Gwleidyddiaeth
932
-
Iechyd
689
-
Llenyddiaeth
646
-
Cerddoriaeth
604
-
Arian a Busnes
567
-
Amaethyddiaeth
512
-
Bwyd
455
-
Chwaraeon
370
-
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
329
-
Gwyddoniaeth a Thechnoleg
285
-
Ar-lein
261
-
Eisteddfod yr Urdd
184
-
Hyfforddiant / Cyrsiau
81
-
Cystadlaethau
47
-
Barn
16
-
Papurau Bro
14
-
Adolygiadau Llyfrau
13
-
Teledu
11
-
Adolygiadau Cerddoriaeth
6
-
Sioe Frenhinol Cymru
4
-
Llythyron
3