Ar drothwy Symposiwm Mapiau Cymru 2022
Mai 13, 2022
Y chweched mewn cyfres sydd wedi ei gynnal ers 2016, bydd symposiwm eleni eto yn cael ei gynnal ar-lein, gan roi mynediad i bobl o bob cwr o’r byd.
Mae thema eleni, ‘Mapio Mewn Megabeitiau’ yn archwilio sut mae mapiau a gynhyrchir gan gyfrifiadur yn newid y ffordd y mae mapiau’n cael eu creu, eu defnyddio a’u cadw a beth mae hyn yn ei olygu i’r rhai sy’n cadw gwybodaeth o’r fath ac yn ei gwneud ar gael i’r cyhoedd. Mae’r digwyddiad yn cynnwys rhaglen o gyflwyniadau hynod ddifyr.
Dadgoloneiddio mapiau Cymru
Gan ddechrau gyda Jason Evans, Rheolwr Data Agored y Llyfrgell, a fydd yn trafod ‘Dadgoloneiddio Mapiau Cymru’, bydd y digwyddiad hefyd yn cynnwys cyflwyniadau gan Jon Dollery, Swyddog Mapio, Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, a fydd yn siarad am brosiect cyffrous y mae’n gweithio arni i greu data digidol rhyngweithiol o fapiau hanesyddol; Dr Gethin Rees, Curadur Arweiniol, Mapio Digidol, Llyfrgell Brydeinig, a fydd yn trafod Syllwr Mapiau Llyfrgelloedd Adnau Cyfreithiol; a Sally McInnes, Pennaeth Cynnwys Unigryw a Chyfoes, Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Dr Sarah Higgins, Darlithydd, Adran Astudiaethau Gwybodaeth, Prifysgol Aberystwyth, a fydd yn cau’r diwrnod trwy drafod materion yn ymwneud â chadwedigaeth mapiau digidol.
Mae symposiwm eleni’n argoeli i fod yn ddiwrnod cyffrous gyda chyfle i glywed am rai o brosiectau mwyaf blaengar y maes. Mae tocynnau yn rhad ac am ddim a gellir eu harchebu ar ein tudalen digwyddiadau:
Darllenwch fwy am y cyflwyniadau yn y blog
- Popeth5861
- Newyddion 5508
- Addysg 2044
- Hamdden 1840
- Iaith 1566
- Celfyddydau 1397
- Amgylchedd 965
- Gwleidyddiaeth 925
- Iechyd 660
- Llenyddiaeth 640
- Cerddoriaeth 577
- Arian a Busnes 500
- Amaethyddiaeth 432
- Bwyd 403
- Chwaraeon 344
- Eisteddfod Genedlaethol Cymru 288
- Ar-lein 258
- Gwyddoniaeth a Thechnoleg 255
- Eisteddfod yr Urdd 147
- Hyfforddiant / Cyrsiau 49
- Cystadlaethau 46
- Barn 15
- Adolygiadau Llyfrau 13
- Papurau Bro 13
- Adolygiadau Cerddoriaeth 6
- Llythyron 3