Angen yn fwy nag erioed am wasanaethau elusen pobl ifanc
Gorffennaf 02, 2025
Ers ei sefydlu, nod GISDA yw rhoi llwyfan i leisiau ifanc, gyda’r Gynhadledd Gwasanaethau Pobl Ifanc ar 10 Gorffennaf yn Galeri yn gwneud yn union hynny. Ymhlith y prif siaradwyr mae dau berson ifanc sydd wedi elwa o gefnogaeth yr elusen, a bydd y digwyddiad yn canolbwyntio ar sut y gall partneriaethau a rhannu profiadau wella gwasanaethau ar gyfer y genhedlaeth nesaf yng Nghymru.
Dywedodd Sian Elen Tomos, Prif Weithredwr GISDA: “Mae hwn yn ddigwyddiad pwysig yn ein calendr ni eleni – nid yn unig i ddathlu’r hyn rydyn ni wedi gyflawni ond hefyd i greu cysylltiadau, rhannu arfer dda a cheisio ysbrydoli pobl i greu newid cadarnhaol.
“Er ein gwaith, mae galw am wasanaethau ieuenctid yn parhau i gynyddu a phobl ifanc yn cael eu hunain mewn sefyllfaoedd ble nad oes ganddyn nhw unman i droi. Dyna ble gallwn ni helpu ond rydym yn sylweddoli na allwn wneud hynny ar ein pennau ein hunain ac yn edrych ymlaen felly at glywed a thrafod gyda chydweithwyr ar draws y sector ar sut i greu dyfodol gwell ar gyfer ein pobl ifanc bregus.”
Mae’r digwyddiad yn rhan o ddathliadau 40 mlynedd o GISDA, ac yn gyfle i edrych yn ôl ac ystyried effaith y gwaith sydd wedi ei wneud hyd yma, yn ogystal â gosod gweledigaeth glir i’r dyfodol.
Bydd y gynhadledd yn dod ag ystod eang o gyfranogwyr at ei gilydd – gan gynnwys elusennau, asiantaethau cyhoeddus, gweithwyr ieuenctid, arbenigwyr, a’r bobl ifanc eu hunain.
Anya Sherlock yw un o bobl ifanc Gisda, mae’n un o siaradwyr y gynhadledd. Mae wedi cael cefnogaeth gan yr elusen ers tair blynedd ac enillodd wobr Centrepoint Partners yn 2024 am yr hyn y mae wedi'i gyflawni yn y cyfnod hwn. Dywedodd: “Pan wnes i droi at GISDA, doedd gen i ddim syniad beth fyddai’n bosib. Mae’r tîm wedi rhoi’r hyder i mi ac i greu dyfodol gwell i fi fy hun. Rydw i yn edrych ymlaen at y gynhadledd ac yn awyddus i ddefnyddio’r profiadau rydw i wedi eu cael i helpu pobl Ifanc eraill sydd yn mynd trwy’r un pethau.”
Bydd gweithdai rhyngweithiol ac arddangosiadau’n rhoi cyfle i bawb gymryd rhan yn y sgwrs. Mae GISDA yn pwysleisio mai’r nod yw creu llwyfan agored lle gall pawb sy’n gweithio gyda phobl ifanc – boed hynny’n broffesiynol, yn wirfoddolwr neu’n deulu – gyfrannu i’r drafodaeth genedlaethol.
Mae’r digwyddiad yn rhad ac am ddim, ond mae lleoedd yn gyfyngedig. Mae modd cofrestru trwy wefan GISDA.
- Popeth6424
-
Newyddion
5991
-
Addysg
2141
-
Hamdden
1870
-
Iaith
1656
-
Celfyddydau
1469
-
Amgylchedd
1026
-
Gwleidyddiaeth
932
-
Iechyd
694
-
Llenyddiaeth
646
-
Cerddoriaeth
606
-
Arian a Busnes
580
-
Amaethyddiaeth
523
-
Bwyd
457
-
Chwaraeon
370
-
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
329
-
Gwyddoniaeth a Thechnoleg
286
-
Ar-lein
261
-
Eisteddfod yr Urdd
193
-
Hyfforddiant / Cyrsiau
91
-
Cystadlaethau
47
-
Barn
16
-
Papurau Bro
14
-
Adolygiadau Llyfrau
13
-
Teledu
11
-
Adolygiadau Cerddoriaeth
6
-
Sioe Frenhinol Cymru
4
-
Llythyron
3