Albwm newydd y Plu allan nawr!

Rhagfyr 08, 2014

Holl Anifeiliaid y Goedwig

‘Holl Anifeiliaid y Goedwig’ yw ail albwm Y Plu - y band gwerin amgen o ardal Eryri, Gogledd Cymru ac mae’n cynnwys 15 cân ar thema anifeiliaid sy’n gymysgedd o ganeuon gwreiddiol, traddodiadol ac addasiadau o glasuron plant o Gymru.

 

Mae’r ddwy chwaer a brawd, Elan, Marged a Gwilym Rhys, yn canu mewn harmoni tri llais gyda dylanwad canu gwlad ac Americana yn amlwg. Aeth Lleol.Cymru i holi’r Plu am ei halbwm diweddaraf:

 

1. Beth oedd y syniad tu ôl i'r cysyniad i Holl Anifeiliaid y Goedwig?

 

Roeddem ni eisiau thema dda i'r albwm a fuasai'n tynnu'r holl ganeuon gyda'i gilydd ac fe benderfynem ni ar anifeiliaid. Gan fod pawb yn licio anifeiliaid ac mae'r caneuon yn rhai oesol, ddim yn bynciau hen ffasiwn.

 

2. Disgrifiwch steil yr albwm yma?

 

Lot o harmonïau a chymysgedd o offerynnau ond mae'r naws yn ysgafn a chwareus. Mae'n gymysgedd o ganeuon gwreiddiol, traddodiadol a'r hen glasuron.

 

3. Oes yna westeion ar yr albwm?

 

Cafodd pob sŵn ei greu gan Plu, yn cynnwys y garglo!

 

4. Pwy gynlluniodd y clawr?

 

Yvonne Amor wnaeth greu'r lluniau ar glawr a llyfryn yr albwm. Maen nhw'n hyfryd, pob un yn adlewyrchu'r caneuon yn berffaith.

 

5. Sut brofiad oedd cynhyrchu ail albwm?

 

Cawsom lawer o hwyl yn recordio'r albwm, yn enwedig yn arbrofi gydag offerynnau a synau gwirion.

 

6. Beth ydach chi isio 'Dolig?

 

Bysa cael mwy o amser gyda'n gilydd i ymarfer a 'sgwennu caneuon yn anrheg wych!

 

7. Uchafbwynt eleni? /Isafbwynt?

 

Mae gennym lawer iawn o uchafbwyntiau, roedden ni'n lwcus iawn i fod yn brysur iawn dros yr haf. Bosib bod chwarae yng Ngŵyl y Gelli yn un o'n ffefrynnau gan fod cynulleidfa hollol newydd yno.

 

Mi fedrwch wrando ar glipiau o’r albwm isod

 


 

Bydd eu gig nesaf gyda Al Lewis a'i ffrindiau, yn Eglwys St.John, Treganna, Caerdydd, ar 13eg o Ragfyr.

 

Os oes gennych chi ddatganiad neu newyddion am eich sefydliad neu fusnes yna danfonwch y manylion atom ni ac fe wnawn ni rhoi'r gair ar led. E-bostiwch datganiad@lleol.net

Mwy

GWELD POPETH

Dwy nofel gadwyn wedi’u hysgrifennu gan bobl ifanc Ceredigion

Cronfa Ynni Glân Gogledd Cymru yn agor 

Mentera yn lansio SBARC Ceredigion i rymuso entrepreneuriaid

  • Popeth6424
  • Newyddion
    5991
  • Addysg
    2141
  • Hamdden
    1870
  • Iaith
    1656
  • Celfyddydau
    1469
  • Amgylchedd
    1026
  • Gwleidyddiaeth
    932
  • Iechyd
    694
  • Llenyddiaeth
    646
  • Cerddoriaeth
    606
  • Arian a Busnes
    580
  • Amaethyddiaeth
    523
  • Bwyd
    457
  • Chwaraeon
    370
  • Eisteddfod Genedlaethol Cymru
    329
  • Gwyddoniaeth a Thechnoleg
    286
  • Ar-lein
    261
  • Eisteddfod yr Urdd
    193
  • Hyfforddiant / Cyrsiau
    91
  • Cystadlaethau
    47
  • Barn
    16
  • Papurau Bro
    14
  • Adolygiadau Llyfrau
    13
  • Teledu
    11
  • Adolygiadau Cerddoriaeth
    6
  • Sioe Frenhinol Cymru
    4
  • Llythyron
    3