Adeilad S4C yn cael ei ailenwi'n 'Corlan Dai Llanilar' fel teyrnged i Dai Jones

Gorffennaf 23, 2024

Heddiw (Dydd Mawrth, 23 Gorffennaf) fe fydd adeilad S4C ar safle’r Sioe yn LLanelwedd yn derbyn enw newydd – Corlan Dai Llanilar - mewn teyrnged i’r diweddar Dai Jones, fu’n wyneb cyfarwydd ar y sianel am flynyddoedd.

Bydd llechen yn cael ei ddadorchuddio ar furiau adeilad S4C am 10.45 a derbyniad coffa i ddilyn am 11.00.

Yn y derbyniad bydd gwasg Y Lolfa’n lansio cyfrol Cofio Dai, casgliad o ysgrifau wedi’u llunio gan y bobl oedd yn ei adnabod orau ym mhob rhan o’i fywyd. Roedd golygydd y gyfrol, Beti Griffiths, yn ffrind agos i Dai a’i weddw, Olwen.

Bu farw Dai Jones, oedd hefyd yn ffermwr ac yn ganwr talentog yn 78 oed ym mis Mawrth 2022.

Bu’n cyflwyno sawl rhaglen adnabyddus ar y radio a theledu, ond mae’n cael ei gofio’n bennaf fel cyflwynydd y gyfres Cefn Gwlad.

Mae’r llechen, sy’n cyfeirio at Dai fel y ‘Ffarmwr, Darlledwr, Gwladgarwr’, yn cael ei chyflwyno gan Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru a hynny ym mlwyddyn Sir Nawdd Ceredigion, ac yn cynnwys englyn gan y bardd Tudur Dylan Jones:

Dai

Dai’r ardal hyd y dalar, - Dai â’i lais

Hyd y wlad, Dai’r cymar,

Dai frenin ei werin wâr.

Llawn o hwyl yw Llanilar.

Meddai Sioned Wiliam, Prif Weithredwr Dros Dro S4C:

“Mae’r penderfyniad i alw adeilad S4C ar faes Sioe Frenhinol Cymru yn Corlan Dai Llanilar wedi bod yn un rhwydd a naturiol iawn i’w gwneud.

“Roedd Dai Jones yn un o hoelion wyth y byd darlledu Cymraeg, a’i afiaith dros y Gymraeg, darlledu Cymraeg ac hefyd dros gefn gwlad Cymru yn heintus.

“Rydym yn falch iawn fel S4C ein bod yn gallu coffau’r gŵr arbennig ac unigryw hwn mewn ffordd arbennig. Bydd y cenedlaethau i ddod hefyd yn gallu dysgu am Dai a chael eu hysbrydoli ganddo.”

Meddai Aled Rhys Jones, Prif Weithredwr Sioe Frenhinol Cymru:

"Byddai Dai yn dweud yn aml, y fraint fwyaf a ddaeth i’w rhan oedd cael ei ethol yn Llywydd y Gymdeithas. Ac eleni, mae’n fraint i ni ddadorchuddio cofeb barhaol am un o fawrion y genedl. Roedd y Sioe yn golygu lot i Dai ac rydym yn cofio gyda gwen ar ein hwynebau am un o gewri cefn gwlad Cymru yr wythnos hon.”

Mwy

GWELD POPETH

Dwy nofel gadwyn wedi’u hysgrifennu gan bobl ifanc Ceredigion

Cronfa Ynni Glân Gogledd Cymru yn agor 

Mentera yn lansio SBARC Ceredigion i rymuso entrepreneuriaid

  • Popeth6424
  • Newyddion
    5991
  • Addysg
    2141
  • Hamdden
    1870
  • Iaith
    1656
  • Celfyddydau
    1469
  • Amgylchedd
    1026
  • Gwleidyddiaeth
    932
  • Iechyd
    694
  • Llenyddiaeth
    646
  • Cerddoriaeth
    606
  • Arian a Busnes
    580
  • Amaethyddiaeth
    523
  • Bwyd
    457
  • Chwaraeon
    370
  • Eisteddfod Genedlaethol Cymru
    329
  • Gwyddoniaeth a Thechnoleg
    286
  • Ar-lein
    261
  • Eisteddfod yr Urdd
    193
  • Hyfforddiant / Cyrsiau
    91
  • Cystadlaethau
    47
  • Barn
    16
  • Papurau Bro
    14
  • Adolygiadau Llyfrau
    13
  • Teledu
    11
  • Adolygiadau Cerddoriaeth
    6
  • Sioe Frenhinol Cymru
    4
  • Llythyron
    3