Adam Jones y Garddwr wedi’i benodi’n Gyfarwyddwr Garddwriaeth newydd i Sioe Frenhinol Cymru
Tachwedd 15, 2023
Mae hyrwyddo garddwriaeth yn un o amcanion elusennol allweddol y Gymdeithas ac mae cynlluniau ar fynd i sefydlu Pentref Garddwriaethol newydd yn Sioe Frenhinol Cymru 2024, yn dathlu pob agwedd ar arddwriaeth yng Nghymru.
I’n helpu i gyflawni’r weledigaeth yma, mae CAFC wedi penodiAdam Jones fel y Cyfarwyddwr Garddwriaeth gwirfoddolnewydd i gymryd rhan arweiniol yn yr adran. Bydd y swydd yn golygu goruchwylio datblygiad y pentref garddwriaetholnewydd, cysylltu â rhanddeiliaid allweddol, a dod ag arddangoswyr a chyfleoedd noddi i Sioe Frenhinol Cymru.
Bydd y garddwr adnabyddus o Sir Gaerfyrddin, sy’n cael ei adnabod fel Adam yn yr Ardd, yn wyneb a llais cyfarwydd i lawer. Mae Adam wedi datblygu llawer o ddilynwyr ar y cyfryngau cymdeithasol gyda dros 26,000 o ddilynwyr arInstagram (@adamynyrardd). Mae Adam yn awdur llyfr garddio i blant hefyd, ac yn westai rheolaidd ar BBC Radio Cymru arhaglenni S4C Prynhawn Da a Heno.
Dechreuodd Adam arddio pan oedd ond yn dair blwydd oed gan ddilyn mwyniant garddio ei dad-cu. Yn awr, gyda dros ugain mlynedd o brofiad garddio, mae Adam yn pleidio garddio organig ac ystyriol o natur ac yn ymdrechu i annog a gwella bioamrywiaeth, gan weithio gydag ysgolion a grwpiaucymunedol.
“Pan wnaeth Prif Weithredwr CAFC a minnau gyfarfod Adam, gwnaeth ei egni a’i weledigaeth argraff enfawr ar y ddau ohonom,” meddai Richard Price, Cyfarwyddwr y Sioe.
“Mae gydag Adam gymaint o syniadau gwych i wneud yr adran arddwriaethol yn lle diddorol a bywiog. Rydym yn edrych ymlaen at weithio gydag Adam, a’n tîm o wirfoddolwyr a rhanddeiliaid o bob cwr o’r diwydiant i ddod â’r pentrefgarddwriaethol newydd yn fyw mewn pryd ar gyfer Sioe Frenhinol Cymru y flwyddyn nesaf.”
Mae Adam Jones yn gyffrous i ddechrau ei swydd. “Rwyf wrth fy modd o gael cynnig y cyfle gwych yma i weithio gyda’r Gymdeithas ac unigolion rhagorol o bob cwr o Gymru i wireddu potensial y pentref garddwriaethol newydd,” meddai Adam.
“Rwyf yn cefnogi â’m holl galon y weledigaeth i ysbrydoli, addysgu a chydweithredu a bydd hyn yn hollbwysig wrth aildanio bri’r adran arddwriaethol fel rhan annatod o’r sioe.
Rwyf yn wirioneddol edrych ymlaen at annog cenhedlaeth newydd o arddangoswyr a thyfwyr i gystadlu a dathlu eu gwaith, gyda ffocws mawr ar addysg. Mae’r cyfleoedd i gydweithio gyda grwpiau ar draws Cymru a hyrwyddo garddwriaeth yn ddiddiwedd.
Mae i’r adran arddwriaethol hanes hir a chyfoethog o ddangos Cymru ar ei gorau un ar lwyfan ryngwladol ac yn awr mae gennym gyfle euraidd i ddatblygu a dathlu garddwriaeth Cymru ymhellach.”
Bydd Adam yn ymuno â ni yn y Ffair Aeaf sy’n dod yn ddiweddarach y mis hwn fel siaradwr gwadd yn ystod ein rhaglen addysgol newydd ‘Our Land / Ein Tir’.
Edrychwn ymlaen at groesawu Adam i dîm Sioe Frenhinol Cymru.
I gael rhagor o wybodaeth am y Ffair Aeaf neu i brynu tocynnau, ewch i’n gwefan.
- Popeth6397
-
Newyddion
5966
-
Addysg
2139
-
Hamdden
1870
-
Iaith
1650
-
Celfyddydau
1466
-
Amgylchedd
1021
-
Gwleidyddiaeth
932
-
Iechyd
693
-
Llenyddiaeth
646
-
Cerddoriaeth
606
-
Arian a Busnes
576
-
Amaethyddiaeth
518
-
Bwyd
457
-
Chwaraeon
370
-
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
329
-
Gwyddoniaeth a Thechnoleg
286
-
Ar-lein
261
-
Eisteddfod yr Urdd
184
-
Hyfforddiant / Cyrsiau
86
-
Cystadlaethau
47
-
Barn
16
-
Papurau Bro
14
-
Adolygiadau Llyfrau
13
-
Teledu
11
-
Adolygiadau Cerddoriaeth
6
-
Sioe Frenhinol Cymru
4
-
Llythyron
3