Actorion yn recordio cân er mwyn codi arian i Tarian Cymru

Mai 05, 2020

Mae aelodau cast gwreiddiol y sioe gerdd eiconig ‘Deffro’r Gwanwyn’ wedi ail-greu’r gân hudolus ‘Hâf ein Hiraeth’ er mwyn codi arian i Tarian Cymru.

Bron i ddeng mlynedd ers i addasiad Cymraeg y sioe Broadway ‘Spring Awakening’ ddechrau ar daith gyda Theatr Genedlaethol Cymru, penderfynodd 16 o sêr y sioe ddod at ei gilydd ar-lein i recordio’r gân oedd yn cloi y sioe Gymraeg.

 

"Roedd y cast yn unfryd ei bod hi’n hen bryd cael aduniad,” dywed Meilir Sion Williams, un o’r cast, oedd hefyd wedi cydlynu’r recordio, “a pha ffordd well na gwneud hynny trwy gân!"

 

"Ar ôl siarad efo aelod o dîm Tarian Cymru a chlywed am y diffyg offer gwarchodol i staff iechyd a gofal sy’n dal i fod ar draws Cymru, es i ati i feddwl am ffordd o gasglu prês i’r elusen.
“A hithau bron yn ddeng mlynedd ers cynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru o sioe gerdd ‘Deffro’r Gwanwyn’, mi gysylltais efo’r cast i gynnig y syniad, ac o fewn ychydig oriau, roedd pawb yn gytun ac awyddus i ganu cân olaf y sioe ‘Haf Ein Hiraeth’ er budd Tarian Cymru. 

 

Dibynnu ar y we

 

Yn sgîl gofynion hunan ynysu Covid-19, bu'n rhaid dibynnu’n llwyr ar y we i’r actorion, sydd yn cynnwys enwau adnabyddus fel Lynwen Haf Roberts, Nia Ann, Berwyn Pearce, Daniel Lloyd, Sion Ifan, Ceri Lloyd, Ffion Dafis, ac Elain Lloyd recordio’r gân.
“Dwi’n ffodus mod i’n byw efo brawd a chwaer sy’n gerddorion a chynhyrchwyr cerddoriaeth, sef Branwen ac Osian Williams,” meddai Meilir, “Fe gynhyrchwyd y trac sain o fewn wythnos, cyn i Meredudd Jones gynnig ei ddoniau golygu i greu’r fideo gorffenedig. 

 

“Rydym i gyd fel criw yn falch o’r ymateb i’r fideo ac yn gobeithio y bydd hi’n gymorth i godi ymwybyddiaeth ac i gasglu arian i elusen Tarian Cymru."
Mae fideo’r perfformiad ar dudalen Facebook Tarian Cymru, ac mae ar gael ar YouTube. Mae’r cast yn annog i bawb gyfrannu’n hael drwy fynd i wefan tarian.cymru

Mwy

GWELD POPETH

Teuluoedd yn dychwelyd adref diolch ARFOR: menter Ymgartrefu Llwyddo’n Lleol

Entrepreneur o Ynys Môn yn helpu pobl ifanc i aros yn lleol

Ymchwil Canser Cymru yn enwi llysgenhadon newydd yr elusen

  • Popeth6387
  • Newyddion
    5957
  • Addysg
    2137
  • Hamdden
    1869
  • Iaith
    1646
  • Celfyddydau
    1465
  • Amgylchedd
    1019
  • Gwleidyddiaeth
    932
  • Iechyd
    692
  • Llenyddiaeth
    646
  • Cerddoriaeth
    606
  • Arian a Busnes
    574
  • Amaethyddiaeth
    517
  • Bwyd
    457
  • Chwaraeon
    370
  • Eisteddfod Genedlaethol Cymru
    329
  • Gwyddoniaeth a Thechnoleg
    286
  • Ar-lein
    261
  • Eisteddfod yr Urdd
    184
  • Hyfforddiant / Cyrsiau
    85
  • Cystadlaethau
    47
  • Barn
    16
  • Papurau Bro
    14
  • Adolygiadau Llyfrau
    13
  • Teledu
    11
  • Adolygiadau Cerddoriaeth
    6
  • Sioe Frenhinol Cymru
    4
  • Llythyron
    3