Achub Siop Bys a Bawd - cadw’r Gymraeg yn Llanrwst
Chwefror 24, 2025
Agorwyd Siop Bys a Bawd yn 1955 gan Dafydd ac Arianwen Parry ac mae’n debyg mai hon oedd y siop lyfrau Gymraeg gyntaf yng Nghymru. Dros y degawdau, mae wedi dod yn ganolbwynt diwylliannol a chymdeithasol i’r dref, gan feithrin cysylltiadau cryf gyda’r gymuned leol a hyrwyddo llenyddiaeth Gymraeg.
Yn 2023, rhoddwyd y siop, y busnes a’r ddwy fflat uwchben ar werth. Heb ddigon o ddiddordeb gan brynwyr preifat, trodd Cyngor Llyfrau Cymru at Menter Iaith Conwy i archwilio cyfleoedd i achub y siop drwy fenter gymunedol. O ganlyniad, cynhaliwyd dau gyfarfod cyhoeddus ym mis Ebrill 2024, gan ddenu cefnogaeth frwd gan tua 50 o bobl leol.
Yn sgil hyn, ffurfiwyd pwyllgor Bys a Bawd Pawb gyda grŵp amrywiol o unigolion lleol sy’n rhannu’r uchelgais i gadw’r siop ar agor. Bydd y grŵp yn lansio cynnig cyfranddaliadau ym mis Mawrth 2025, gan roi cyfle i’r gymuned fuddsoddi yn nyfodol y siop.
Mae’r cynllun yn mynd y tu hwnt i gadw’r drysau ar agor. Mae’r pwyllgor yn anelu at wneud Siop Bys a Bawd yn ganolbwynt diwylliannol a llenyddol i’r dref – lle i gynnal digwyddiadau, sgyrsiau, arwyddo llyfrau, a gweithdai creadigol i blant a phobl ifanc. Bydd y siop hefyd yn cynnig cyfleoedd i ddysgwyr Cymraeg gymdeithasu ac ymarfer eu sgiliau mewn awyrgylch croesawgar.
Mae’r ddwy fflat sydd ynghlwm wrth yr adeilad yn rhan bwysig o’r cynllun hefyd. Yn hytrach na’u troi’n lety gwyliau, mae’r bwriad i’w cadw fel cartrefi i bobl leol, gan gryfhau’r cysylltiad rhwng y siop a’i chymuned.
Bydd y cynnig cyfranddaliadau yn darparu cyfle i’r cyhoedd fuddsoddi mewn busnes lleol, gyda’r arian yn cael ei ddefnyddio i brynu’r siop ac i gefnogi ei datblygiad. Bydd y busnes yn cael ei reoli gan y bwrdd ar ran buddsoddwyr, gan sicrhau model cynaliadwy ar gyfer y dyfodol.
Ymunwch â’r Ymgyrch i Achub Siop Bys a Bawd
Mae cefnogaeth y gymuned yn hollbwysig i sicrhau dyfodol y siop. Os hoffech chi gyfrannu neu ddarganfod mwy am y cynllun cyfranddaliadau, cysylltwch â ni:
Meirion, Menter Iaith Conwy – 01492 642357
- Popeth6403
-
Newyddion
5971
-
Addysg
2140
-
Hamdden
1870
-
Iaith
1652
-
Celfyddydau
1467
-
Amgylchedd
1023
-
Gwleidyddiaeth
932
-
Iechyd
693
-
Llenyddiaeth
646
-
Cerddoriaeth
606
-
Arian a Busnes
578
-
Amaethyddiaeth
519
-
Bwyd
457
-
Chwaraeon
370
-
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
329
-
Gwyddoniaeth a Thechnoleg
286
-
Ar-lein
261
-
Eisteddfod yr Urdd
185
-
Hyfforddiant / Cyrsiau
88
-
Cystadlaethau
47
-
Barn
16
-
Papurau Bro
14
-
Adolygiadau Llyfrau
13
-
Teledu
11
-
Adolygiadau Cerddoriaeth
6
-
Sioe Frenhinol Cymru
4
-
Llythyron
3