Uned busnes i'w gosod ym Nantlle ger Penygroes, Caernarfon - Telerau rhesymol iawn
Trosolwg:
Uned fusnes hwylus ar gael yn Y Barics, Nantlle, Caernarfon, Gwynedd, LL54 6BD - ardal brydferth iawn o fewn Parc Cenedlaethol Eryri.
Rhent a thelerau rhesymol iawn.
Cysylltwch รข Antur Nantlle ar 01286 882688, 07724 902532, neu post@anturnantlle.com am ragor o fanylion neu i drefnu ymweliad.
Disgrifiad:
Uned fusnes mewn lleoliad cyfleus yn Nantlle ar gael rwan
Mae Dyffryn Nantlle yn le delfrydol i redeg busnes. Gyda Nantlle wedi ei leoli o fewn Parc Cenedlaethol Eryri, mae'r Dyffryn yn eistedd ar y brif ffordd rhwng Porthmadog a Chaernarfon, felly mae'n ganolog iawn o ran teithio.
O fewn ychydig funudau i'r uned, mae banc, llefydd bwyta, siopau yn gwerthu nwyddau o bob math, swyddfa bost, canolfan hamdden, tafarndai a llawer iawn mwy.
Prif nodweddion
Lle hynod o braf i weithio
Digon o le parcio
Rhent misol rhesymol
Perffaith ar gyfer busnesau crefft / celf
Uned hardd dros ddau lawr yn cynnwys cegin a thoiled
Holi ymhellach / Gwneus cais
Mae ffurflenni cais ar gael yn ein swyddfa, uwchben y Llyfrgell ym Mhenygroes, neu gallwn eBostio un i chi.
Cefndir Antur Nantlle
Sefydlwyd Antur Nantlle yn 1991 fel cwmni cyfyngedig di-elw gan grลตp o bobl leol i weithio er lles ardal Dyffryn Nantlle aโr cylch. Nod yr Antur yw ymgyrraedd at adfywiad economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol yn yr ardal gan roi blaenoriaeth i hyrwyddo menter ymhlith pobl leol a datblygu cyfleodd i greu swyddi.
Rheolir yr Antur gan fwrdd o Gyfarwyddwyr syโn gweithredu yn wirfoddol er budd yr ardal. Ers ei sefydlu maeโr Antur wedi llwyddo i wneud gwahaniaeth sylweddol yn Nyffryn Nantlle drwy brynu ac addasu adeiladau segur yn yr ardal yn ogystal a datblygu nifer o brosiectau mentrus.
Erbyn heddiw โrydym yn medru cynnig 16 o unedau busnes, 15 o swyddfeydd, dwy siop, iard, ystafell hyfforddiant gyfrifiadurol ac un fflat, sydd yn cynnig mannau gwaith i oddeutu 60 o bobl yn Nyffryn Nantlle.
Fel cwmni di-elw, gallwn gadw ein rhenti yn gystadleuol iawn.
Uned busnes i'w gosod ym Nantlle ger Penygroes, Caernarfon - Telerau rhesymol iawn
Cysylltiad Uned busnes i'w gosod ym Nantlle ger Penygroes, Caernarfon - Telerau rhesymol iawn