Pobol y Cwm: Dathlu’r 50 drwy atgof a llun

Book Image
Cyhoeddwr: Clawr Meddal
Awdur: William Gwyn / Dorian Morgan
Fformat: Clawr Meddal
Dyddiad Rhyddhau: 11/10/2024

Mae 50 o flynyddoedd wedi treiglo heibio ers darllediad cyntaf Pobol y Cwm ’nôl yn Hydref 1974. Ddiwedd yr wythnos hon, cyhoeddir casgliad difyr o 50 o atgofion a hanesion pobl sydd wedi bod yn rhan o deulu’r gyfres boblogaidd, ac sy’n parhau i fod. Meddai Rhuanedd Richards, Cyfarwyddwr BBC Cymru, ‘O fewn cloriau’r gyfrol arbennig hon i ddathlu’r garreg filltir nodedig yma, mae atgofion llu o actorion a chriw sydd wedi sicrhau llwyddiant Pobol y Cwm ar hyd y blynyddoedd.’

Mewn erthygl yn Y Cymro yn 1975, fe ddywedodd Gwenlyn Parry, cyd-sylfaenydd y gyfres, mai’r ‘nod oedd cynhyrchu stwff y byddai Cymry naturiol yn ei wylio, dim am ei fod o yn Gymraeg, ond am ei fod o’n ddifyr.’ Mae cynhyrchwyr y gyfres wedi glynu wrth yr ethos hwnnw, ac wedi sicrhau bod bywydau trigolion Cwmderi yn adlewyrchu cymunedau pentrefol o’r fath yn y Gymru gyfoes. Wrth bori drwy’r gyfrol hon, cewch flas ar esblygiad Pobol y Cwm dros y degawdau, a’r ymdrechion i sicrhau bod y cymeriadau’n unigolion o gig a gwaed.

‘Dw i’n hynod ddiolchgar i William Gwyn a Dorian Morgan am ymgymryd â’r gwaith o gofnodi atgofion y cast a’r criw o weithio ar y gyfres dros y degawdau. Mae’n gofnod pwysig o gyfraniad a hanes y sebon unigryw hwn. Mae ’na straeon sy’n codi gwên; mae ’na dristwch, mae ’na lawenydd, a’r cyfan yn adlewyrchu’r cynhesrwydd sy’n ganolog i enaid Pobol y Cwm.’ – Dafydd Llewelyn, Cynhyrchydd y Gyfres

Mae’r straeon yn nalennau’r llyfr hwn yn eich tywys o ddechrau’r daith yn festri Capel Ebeneser, Charles Street, i Stiwdio C1 yn hen Ganolfan Ddarlledu y BBC yn Llandaf – a Thŷ Oldfield – ac yna i’r cartref newydd ym Mae Caerdydd. Cawn gipolwg ar yr elfennau – y darnau jig-so – sy’n dod ynghyd i greu’r cyfanwaith; y storïo a’r sgriptio, y golygu a’r cynhyrchu, y saernïo setiau, y ffilmio, y coluro, yr actio, y dybio a’r ôl-olygu… a llawer mwy! Fel y dywed yr actores Sera Cracroft, ‘Gwaith tîm ydi Pobol y Cwm ac mae’n bwysig sylweddoli bod pawb yn rhan o’r tîm hwnnw.’

Dywedodd Geraint Evans, Prif Swyddog Cynnwys Dros Dro S4C:

“Mae’n braf croesawu’r gyfrol hon sydd nid yn unig yn crisialu cyfraniad trigolion Cwmderi i arlwy wythnosol S4C ond sydd hefyd yn ddathliad o garreg filltir arbennig yn hanes teledu yng Nghymru a thu hwnt. Llongyfarchiadau mawr i Pobol y Cwm am ddiddanu cenedlaethau o wylwyr am hanner can mlynedd.”

Caiff y gyfrol ei lansio nos Wener (7:30pm), 11 Hydref ynTheatr y Lyric, Caerfyrddin.

Mae cyfres o ddigwyddiadau dilynol i’w mynychu, i drin a thrafod y gyfres dros y blynyddoedd, yng nghwmni aelodau o'r cast:

- Nos Sadwrn (7:30pm), 19 Hydref – Neuadd Dwyfor, Pwllheli
- Nos Fawrth (7:30pm), 22 Hydref – Sefydliad y Glowyr, Coed Duon
- Nos Fawrth (7:30pm), 29 Hydref – Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth

Mwy

GWELD POPETH

O'r Da i'r Direidus - Hunangofiant Aled Hall

Cwm Cawdel yn y Sioe Fawr

Rob