Crynodeb:
Mae nosweithiau Hwyrnos yn ôl yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd o’r diwedd – dewch i ymuno â’r parti!
Disgrifiad:
Mae nosweithiau Hwyrnos yn ôl yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd o’r diwedd – dewch i ymuno â’r parti!
Mae ein digwyddiadau hwyrnos ar gyfer oedolion yn ôl yn 2022, a’r tro hwn byddwn ni’n troi’n ANIFAIL yn y nos! Felly byddwch yn barod i wisgo i fyny, ac ymgolli mewn noson greadigol yn yr Amgueddfa.
Noson llawn cerddoriaeth, gemau, bwyd a diod i ddathlu agoriad arddangosfa Ffotograffydd Bywyd Gwyllt y Flwyddyn, sy’n darlunio ein planed fregus.
Byddwch ymysg y cyntaf i weld yr arddangosfa sy’n cynnwys 100 o luniau wedi eu hôl-oleuo fydd yn tanio brwdfrydedd a chwilfrydedd drwy arddangos amrywiaeth a bregusrwydd bywyd gwyllt ein planed.
£15 am docyn, drysau am 8pm
Lawrlwythiadau / ffurflenni a dogfennau defnyddiol:
View posterHwyrnos - ANIFAIL
Cysylltiad Hwyrnos - ANIFAIL