Crynodeb:
O'r corgimwch i'r carw, ac o'r arth wen i'r corryn – mae arddangosfa Ffotograffydd Bywyd Gwyllt y Flwyddyn enwog yr Amgueddfa Hanes Natur yn dychwelyd i Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd!
Disgrifiad:
Mae’r arddangosfa yn cynnwys 100 o luniau wedi eu hôl-oleuo fydd yn tanio brwdfrydedd a chwilfrydedd drwy arddangos amrywiaeth a bregusrwydd bywyd gwyllt ein planed.
Mae Ffotograffydd Bywyd Gwyllt y Flwyddyn yn blatfform byd-eang ar gyfer arddangos golygfeydd mwyaf trawiadol ac anhygoel byd natur. Derbyniwyd dros 49,000 o gynigion eleni o bob cwr o’r byd.
Gan ddefnyddio grym emosiynol ffotograffiaeth, mae'r gystadleuaeth yn annog pobl i feddwl yn wahanol am eu perthynas â natur, ac i weithredu dros y blaned.
Caiff y delweddau eu beirniadu gan banel o arbenigwyr yn y maes, a'u dewis am eu creadigrwydd, eu crefft a'u cymhlethdod technegol. Datblygwyd a cynhyrchwyd cystadleuaeth Ffotograffydd Bywyd Gwyllt y Flwyddyn gan yr Amgueddfa Hanes Natur, Llundain.
Mynediad cyffredinol: £10 | Gostyngiadau: £7 | Am ddim i rai dan 16 oed ac i Aelodau Amgueddfa Cymru
Ffotograffydd Bywyd Gwyllt y Flwyddyn
Cysylltiad Ffotograffydd Bywyd Gwyllt y Flwyddyn