Cyfle i ennill tocynnau i Noson Pobol y Cwm - Ddoe a Heddiw

Mae Lleol.cymru wedi partneru gyda Chyngor Sir Gaerfyrddin, Theatrau Sir Gâr, Ad/Lib Cymru a S4C i roi cyfle i un person lwcus ennill par o docynnau i Noson yng Nghwmni Pobol y Cwm - Ddoe a Heddiw yn Theatr y Lyric yng Nghaerfyrddin ar 11 Hydref, am 19:30

Ymunwch â rhai o’ch hoff wynebau o Gwmderi dros y blynyddoedd wrth iddynt ddathlu pum degawd o hanes y rhaglen. Sgwrs, hel atgofion, straeon digri - chwerthin ac ambell i gân.

Dyma fydd noson a hanner wrth i ni ddathlu hanner can mlwyddiant y gyfres deledu poblogaidd gan gynnwys:

- Sue Roderick (Cassie)
- Andrew Teilo (Hywel)
- Sera Cracroft (Eileen)
- Lauren Phillips (Kelly)
- Gareth Lewis (Meic)
- Gillian Elisa (Sabrina)
- Gwyn Elfyn (Denzil)
- Hywel Emrys (Derek)

Gyda Ieuan Rhys (Sgt. James) a Phyl Harries (Ken Coslett) yn arwain y noson, ymunwch gyda ni i ddathlu 50 mlynedd o Pobol Y Cwm. Noddwyd gan S4C.

Peidiwch â cholli’r cyfle! Pob lwc!

Cliciwch ar y ddolen uchod i ddarganfod mwy am y digwyddiad.

*Os ydych eisoes wedi prynu tocyn, mae croeso i chi gystadlu. Os ydych chi’n ennill, byddwn yn ad-dalu’ch ffi mynediad.

Enillydd: Doreen Davies - Ceredigion

Mwy

GWELD POPETH

Taleb £30 gan gwmni Draenog

Cyfle i ennill bwndel o deganau gwerth dros £125!

Taleb Gwerth £75 gan FelinFach