Cyfle i ennill tocyn teulu i Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru
Dyma gyfle i ennill tocyn teulu i Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru. Fe fydd y tocyn yn ddilys am chwe mis.
Wedi’i lleoli yng nghefn gwlad hardd Sir Gaerfyrddin, mae’r Ardd yn gyfuniad hynod ddiddorol o’r modern a’r hanesyddol.
Yma fe welwch amrywiaeth ysbrydoledig o erddi â thema, tŷ gwydr un bwa mwyaf y byd, ardaloedd chwarae a gwarchodfa natur genedlaethol, i gyd wedi’u gosod mewn tirwedd o gyfnod y Rhaglywiaeth sy’n darparu llwyfan ar gyfer rhaglen orlawn o ddigwyddiadau a chyrsiau trwy gydol y flwyddyn.
Mae gan yr ardd gasgliad anhygoel o dros 8000 o wahanol fathau o blanhigion, wedi'u gwasgaru ar draws 560 erw o gefn gwlad hardd.
Rhowch gynnig arni. Pob lwc i chi gyd.
Bydd enw'r enillydd yn cael ei gyhoeddi yma yn fuan ar ôl y dyddiad cau. Byddwn hefyd yn cyhoeddi'r enillydd ar draws ein sianeli cyfryngau cymdeithasol.