Mae Cymru’n wlad sy’n cydio’n dynn yn ei diwylliant a’i thraddodiadau. Mae’n wlad llawn hanes, mythau a chwedlau, cerddoriaeth, llenyddiaeth a barddoniaeth. Dyma wlad fach mewn termau daearyddol ond mae ganddi dreftadaeth gyfoethog eang, gyda'i dylanwad yn bell gyrhaeddol.
"Hen Gymru fynyddig, paradwys y bardd, Pob dyffryn, pob clogwyn, i'm golwg sydd hardd" yw geiriau'r Anthem Genedlaethol ac o lethrau caregog Eryri yn y gogledd i fynyddoedd mwyn y Mynyddoedd Du yn y de, mae ein mynyddoedd yn rhan ganolog o'n hetifeddiaeth fel pobl. Pa mor dda yw'ch gwybodaeth o'r mynyddoedd?