Mae Cymru’n wlad sy’n cydio’n dynn yn ei diwylliant a’i thraddodiadau. Mae’n wlad llawn hanes, mythau a chwedlau, cerddoriaeth, llenyddiaeth a barddoniaeth. Dyma wlad fach mewn termau daearyddol ond mae ganddi dreftadaeth gyfoethog eang, gyda'i dylanwad yn bell gyrhaeddol.
Mae gan Gymru gannoedd o draethau godidog yn amrywio o’r traethau hir euraidd i draethau caregog yng nghesail clogwyni. Mae cyfle i fwynhau llawer ohonynt wrth gerdded Llwybr yr Arfordir.