Pa mor dda yr ydych yn adnabod Cymru?
Mae Cymru’n wlad sy’n cydio’n dynn yn ei diwylliant a’i thraddodiadau. Mae’n wlad llawn hanes, mythau a chwedlau, cerddoriaeth, llenyddiaeth a barddoniaeth. Dyma wlad fach mewn termau daearyddol ond mae ganddi dreftadaeth gyfoethog eang, gyda'i dylanwad yn bell gyrhaeddol.
Pa mor dda yr ydych yn adnabod Cymru? Dyma gyfle i brofi eich hun.
Ym mha flwyddyn y sefydlwyd Plaid Cymru?
Pa fynydd yw hwn?
Beth yw bwlch uchaf Cymru?
Pa flwyddyn y cafodd y Ddraig Goch ei chydnabod yn swyddogol fel baner Cymru?
Pa afon yw'r hiraf sy’n llifo’n gyfan gwbl o fewn ffiniau Cymru?
Pryd sefydlwyd Amgueddfa Genedlaethol Cymru trwy siarter frenhinol?
Beth yw llyn naturiol mwyaf Cymru?
Beth yw tafarn uchaf Cymru (heblaw am Hafod Eryri ar gopa’r Wyddfa)?
Ymhle y darganfuwyd y fantell aur hon?
Ym mha dref y mae Eglwys St Giles?
Ym mha dref y cyfarfu Gorsedd y Beirdd am y tro cyntaf fel rhan o’r Eisteddfod ym 1819?
Pa ysgol uwchradd fynychodd y pel-droediwr rhyngwladol Aaron Ramsey?
Beth yw’r enw lladin ar gaer rufeinig Caerllion?
Pa ddyn busnes a oedd yn gyfrifol am adeiladu Dociau'r Barri?
Boddwyd pentref Llanwddyn yn 1888 i gyflenwi dŵr i ba ddinas?