Pa mor dda ydych yn adnabod afonydd Cymru?

Survey Image
Mae Cymru wedi’i chroesi gan afonydd o'i choryn hyd at i'w sawdl. Gyda'n mynyddoedd yn cronni'r holl law, y mae ein nentydd a'n hafonydd yn llifo trwy geunentydd dramatig neu gymoedd cul neu ddyffrynoedd llydan hardd ac ar ddiwedd eu taith yn ymuno â'r Môr Celtaidd neu Fôr yr Iwerydd. Ydych chi'n arbenigwr ar ein hafonydd? Mae cyfle i brofi eich hun.
Pa mor dda ydych yn adnabod afonydd Cymru?
Pa afon yw'r hiraf sy'n llifo yn gyfan gwbl o fewn ffiniau Cymru?
Pa afon sy'n llifo trwy lyn ac yn parhau y pen arall?
Yn ôl y chwedl, ar aber pa afon y ganwyd y bardd Taliesin?
Ynghyd â'r afon Tâf, pa afon arall sy'n llifo i Fae Caerdydd?
Ym mha afon y mae Ffos Anoddun?
Pa afon sy'n llifo trwy dref Rhaeadr ym Mhowys?
Pa afon yw hon?
Ar lan pa afon y maent wedi bod yn cloddio am aur ers cyfnod y Rhufeiniaid?
Pa afon sy'n tarddu mewn llyn bach ar odrau'r Aran Fawddwy?
Pa afon sy'n llifo heibio tref yr Wyddgrug?
Pa afon o'i tharddiad i'r môr sy'n mesur 134 o filltiroedd?
Pa afon sy'n tarddu yma?
Pa afon sy'n llifo dan ddaear trwy ddinas Bangor?
Ar lan pa afon y mae tref Caerffili?
Pa afon sy'n llifo heibio Tŷ Hyll yn Eryri?
Rydym wedi arbed eich sgôr yn eich adran cyfranogiad yma

Rhannwch eich sgôr

Mwy

GWELD POPETH

Pa mor dda yr ydych yn adnabod Cymru?

Pa mor dda ydych chi'n adnabod ein prifddinas Caerdydd?

Pa mor dda ydych chi'n adnabod cestyll Cymru?