Pa mor dda ydych chi'n adnabod ein prifddinas Caerdydd?
Mae Caerdydd, Prifddinas Cymru, yn cynnig amrywiaeth o atyniadau unigryw, adloniant o’r radd flaenaf a siopau gwych – a’r cwbl o fewn tafliad carreg. Mae pensaernïaeth arloesol i’w weld ochr yn ochr ag adeiladau hanesyddol ac mae Bae Caerdydd yn cynnig pob mathau o adloniant.
Pa mor dda ydych chi'n adnabod ein prifddinas Caerdydd?
Pa flwyddyn y cafodd Caerdydd ei gwneud yn brifddinas Cymru?
Pa bensaer yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg gynlluniodd Castell Caerdydd?
Ym mha stryd y mae Clwb Ifor Bach?
Cerflun o bwy sydd ar Stryd y Frenhines?
Pa flwyddyn yr enillodd Cardiff City Cwpan yr FA?
Pa anturiwr a hwyliodd o Gaerdydd i ddechrau ei daith am Antartica?
Ymhle yng Nghaerdydd y cafodd Dic Penderyn ei grogi am ei ran honedig yng Ngwrthryfel Merthyr?
Yn ôl cyfrifiad 2011, beth oedd poblogaeth Caerdydd?
Pwy sefydlodd Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan?
Pryd yr agorodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru ym Mae Caerdydd?
Pwy ddinistriodd Caerdydd yn 1401?
Pa actor adnabyddus a aned yng Nghaerdydd ym 1893?
Beth yw adeilad talaf Caerdydd?
Yn ôl y stori, pa fand enwodd albym Love Kraft ar ôl siop yng Nghaerdydd?
Ym mha stryd yr arferodd yr afon Taf lifo cyn iddi gael ei dargyfeirio?