Pa mor dda ydych chi’n adnabod Caernarfon?
Mae tref hynafol Caernarfon yn adnabyddus fel un o drefi mwyaf Cymraeg y byd, dyma brif dref weinyddol Gwynedd sy'n llawn o hanes yn ymestyn yn ôl dros ddwy fil o flynyddoedd, pa mor dda ydych chi'n adnabod tref y Cofis?
Pa mor dda ydych chi’n adnabod Caernarfon?
Pa ddwy afon sy’n llifo i’r môr yng Nghaernarfon?
Pryd yr adeiladwyd Doc Fictoria?
Aelod amlwg o glwb hwylio brenhinol Caernarfon oedd Lionel Brabazon Rees, a lwyddodd i wneud beth?
Pwy oedd Ellen Edwards?
Beth oedd yr enwog Anglesey Arms cyn iddi droi yn dafarn?
Pa ffigwr a fu’n ddylanwadol yn siapio y Gaernarfon fodern?
Cofeb i bwy sydd yn Stryd y Castell?
Drws nesaf i Galeri Caernarfon y mae pencadlys Cwmni cyfryngau Cwmni Da, pa sefydliad oedd yno’n wreiddiol?
Cerflun i bwy sydd uwchben Porth y Brenin yn y Castell?
Mae haneswyr wedi disgrifio Caernarfon yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg fel “prifddinas….”
Plac i bwy sydd ar wal Swyddfa Bost Caernarfon?
Pa ymerawdwr rhufeinig sy’n cael ei gysylltu gyda thref Caernarfon?
Llechi o ba chwareli oedd yn cael eu cludo i Gaernarfon i’w hallforio?
Yn ôl y gwesty, cafodd tafarn enwog y Blac Boi ei adeiladu yn ….
Angor pa long sydd wedi ei leoli ger Eglwys y Santes Fair?