Y Môr

Music Image
Enw Artist: Pedair
Dyddiad Rhyddhau: 15/03/2024

Mae Pedair yn dwyn ynghŷd dalentau pedair o artistiaid gwerin arobryn amlycaf Cymru: Gwenan Gibbard, Gwyneth Glyn, Meinir Gwilym a Siân James. A'r pedair yn artistiaid rhyngwladol blaengar eu hunain, maent yn ffynnu wrth gydweithio a pherfformio'n fyw. Gyda'i gilydd dônt â bywyd newydd i ddeunydd traddodiadol gyda threfniannau newydd ar delynau, gitârs, piano ac acordion.

Mae eu perfformiadau byw wedi cydio yn nychymyg a chalonnau cynulleidfaoedd, gyda'u harmonîau ysgubol, ymdriniaeth grefftus o'r traddodiad, ac agosatrwydd y caneuon maent yn eu cyfansoddi.

Gan gyfuno eu doniau unigryw fel chwedl-ganwyr, maent yn tynnu eu deunydd o'r traddodiad barddol a llafar, yn ogystal â gwerin. Mae hynny'n cyfuno'n naturiol gyda'u crefft fel cantorion-gyfansoddwyr medrus, a'u caneuon gwreiddiol yn ymateb i gyflwr presennol y byd, gwytnwch byd natur, a chyda phwyslais arbennig ar roi llais i'r ferch.

Gwelodd eu recordiadau cyntaf olau dydd yn ystod y cyfnod clo, a buan y daeth eu caneuon yn hynod boblogaidd, ac yn ffynhonnell cysur a gobaith annisgwyl i nifer o bobol (yn cynnwys Pedair eu hunain!) A'u halbym cyntaf yn cael ei ryddhau gan Sain yn 2022, tydi asiad creadigol Pedair ond megis cychwyn cyrraedd ei lawn botensial.

Mwy

GWELD POPETH

Y Nos

Da ni ar yr un lôn

Yma o Hyd Cwpan y Byd