Ydych chi'n cefnogi annibyniaeth i Gymru?

Mae'r pôl piniwn wedi cau
Survey Image

Mae cwestiwn annibyniaeth i Gymru wedi dod i'r amlwg yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Mae cefnogwyr annibyniaeth i Gymru yn dadlau fod gan Gymru ddiwylliant, iaith, a hanes unigryw sydd yn ei gosod ar wahân i weddill y Deyrnas Unedig. Maent yn credu y byddai annibyniaeth i Gymru yn sicrhau mwy o ryddid a rheolaeth dros feysydd polisi pwysig, megis yr economi, addysg, a gofal iechyd. Maent yn defnyddio enghreifftiau fel Gweriniaeth Iwerddon a Chroatia sy'n wledydd bychain llwyddiannus yn economaidd ac yn wleidyddol.

Ar y llaw arall, mae gwrthwynebwyr yn dadlau fod Cymru ar ei hennill yn parhau'n rhan o’r Deyrnas Unedig sy'n galluogi iddi gael mynediad i farchnad fwy, ynghyd â sicrwydd o ran diogelwch ac amddiffyn. Maent hefyd yn dadlau fod gan Gymru lais cryfach mewn materion rhyngwladol trwy fod yn rhan o'r Deyrnas Unedig.

Maent hefyd yn tynnu sylw at yr heriau economaidd posibl a allai godi o wahanu o'r DU, megis materion ariannol, arian cyfred a rhwystrau masnach.

Beth yw eich barn chi?

Mae'r pôl piniwn wedi cau.

Ydych chi'n cefnogi annibyniaeth i Gymru?
1. YDW
70% Complete
92.9 %
2. NAC YDW
70% Complete
7.1 %

Mwy

GWELD POPETH
Dyfalwch y canlyniad rhwng Cymru a Georgia
A ddylai bathodynnau ysgol a logos ar wisg ysgol fod yn orfodol?
Dyfalwch y canlyniad rhwng Cymru ac Iwerddon