Swyddog Gweinyddol
Trosolwg
Darparu gwasanaeth gweinyddol ategol i holl brosiectau Amgyclheddol Menter Mon, sy’n cynnwys ond ddim yn gyfyngiedig i: Cwlwm Seiriol, Afonydd Menai, Mon a Menai.
Cyflogwr: Menter Môn
Cyflog: £19,686 (pro rata 3 diwrnod yr wythnos)
Dyddiad Cau: 15/03/2021 (9 diwrnod)
Amser Cau: 17:00:00
Lleoliad
Neuadd Y Dref Llangefni Sgwar Bulkeley Llangefni, Ynys Môn, Cymru LL77 7LRGwybodaeth gyswllt
Enw Cyswllt: Carys Guile
Ffôn: 01248 725 700
E-bost: danfonwch e-bost
Gwefan: Ewch i'r wefan

Disgrifiad
Gweithredu prosiectau: Cynorthwyo i sefydlu a chynnal cynlluniau amgyclheddol Menter Mon.
Cydymffurfiaeth a monitro prosiectau: Cynorthwyo â’r system gasglu allbynnau a rheolaeth ariannol i brosiectau amrywiol.
Gweithio’n agos gyda’r Rheolwr a’r Uwch Swyddogion er mwyn cyrraedd amcanion penodol, yn ogystal â chynnal system ffeilio trefnus er mwyn gallu cofnodi’r holl ddata perthnasol a manylion prosiectau.
Adrodd am brosiectau: Cynorthwyo â chasglu ac adrodd ar gyfer hawliadau Llywodraeth Cymru a chyllidwyr eraill.
Cydlynu’r GGLl: Cydlynu a rheoli’r gwaith o redeg Grwpiau Llywio Prosiect o ddydd i ddydd, gan gynnwys trefnu nifer o gyfarfodydd drwy gydol y flwyddyn, cydlynu gwaith papur paratoadol a cymryd cofnodion.
Cyfarfodydd a Digwyddiadau: Trefnu a chydlynu cyfarfodydd amrywiol, gan gynnwys sesiynau hyfforddiant a gweithdai. Mynychu digwyddiadau thematic neu berthnasol arall os yn briodol.
Cynrychioli'r cwmni: Cynrychioli'r cwmni a hyrwyddo Menter Môn yn rhagweithiol; ei gwaith a'i nodau ac amcanion. Cyfeirio gwybodaeth a gwaith papur perthnasol I swyddogion, ymgynghorwyr a chleientiaid allanol fel bo angen.
Manylion Ychwanegol
Cliciwch ar y ddolen wefan uchod i wneud eich cais am yr hysbyseb swydd
Defnyddiwch y manylion cyswllt uchod i gysylltu â ni am fwy o wybodaeth
*Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb*
Lawrlwythiadau / Ffurflenni a dogfennau defnyddiol:
Swydd Ddisgrifiad / Job Description (Dewiswch 'arbed / save' os anogir)
Gwybodaeth Cefndirol (Dewiswch 'arbed / save' os anogir)
Background Information (Dewiswch 'arbed / save' os anogir)