Swyddog Cyfathrebu

Trosolwg

Byddwch yn ymuno â thîm staff bach, felly bydd cyfle i chi gyfrannu at gyfeiriad strategol y sefydliad ar yr adeg dyngedfennol hon yn ein datblygiad. Gan fod hon yn swydd newydd byddwch yn gallu...

Cyflogwr: TCC (Trefnu Cymunedol Cymru)

Cyflog: £26,474 - £30,318 a chyfraniad pensiwn 10%

Dyddiad Cau: 13/11/2019 (5 diwrnod)

Amser Cau: 12:00:00

Lleoliad

37 Kingsmills Road Wrecsam, Clwyd, Cymru LL13 8NH

Gwybodaeth gyswllt

Enw Cyswllt: Kay Polley

Ffôn: 01978 262588

E-bost: danfonwch e-bost

Gwefan: Ewch i'r wefan

Disgrifiad

Ar ôl cynyddu ein tîm staff o drefnwyr cymunedol yn ddiweddar, mae angen swyddog cyfathrebu arnom i gefnogi ein hymgyrchoedd trwy gynyddu ein presenoldeb ar-lein, dal straeon pobl i ddangos ein llwyddiant, a chynhyrchu cyfathrebiadau atyniadol i'n haelodau a'n cefnogwyr.

Byddwch yn ymuno â thîm staff bach, felly bydd cyfle i chi gyfrannu at gyfeiriad strategol y sefydliad ar yr adeg dyngedfennol hon yn ein datblygiad. Gan fod hon yn swydd newydd byddwch yn gallu gweithio gyda'r prif drefnydd cymunedol i'w datblygu, a chymryd rôl arweiniol wrth reoli ein cyfathrebiadau.

Byddwch yn gallu gweithio rhwng 14 a 22.5 awr - os hoffech drafod trefniadau gweithio, cysylltwch â ni cyn i chi wneud cais. Gweler y disgrifiad swydd am fanylion llawn.

Manylion Ychwanegol

Defnyddiwch y dogfennau isod i wneud eich cais am yr hysbyseb swydd

*Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb*

Lawrlwythiadau / Ffurflenni a dogfennau defnyddiol:

Job Description - English  (Dewiswch 'arbed / save' os anogir)

Application Form - English  (Dewiswch 'arbed / save' os anogir)