Darlithydd mewn Cymraeg i Oedolion (Nifer o swyddi)

Trosolwg

Mae Coleg Cambria yn chwilio am sawl Darlithydd mewn Cymraeg i Oedolion i ddarparu amrywiaeth o gyrsiau Cymraeg i oedolion ar draws y Gogledd Ddwyrain.

Cyflogwr: Coleg Cambria

Cyflog: £26,911 - £41,598 yn seiliedig ar asesiad cyflog a phrofiad perthnasol.

Dyddiad Cau: 16/11/2021 (21 diwrnod)

Amser Cau: 17:00:00

Lleoliad

Amrywiol

Gwybodaeth gyswllt

Enw Cyswllt: Adran Adnoddau Dynol

Gwefan: Ewch i'r wefan

Disgrifiad

Rhagori ar ddisgwyliadau drwy addysg, arloesedd ac ysbrydoliaeth...

Teitl y Swydd: Darlithydd mewn Cymraeg i Oedolion

Lleoliad: Amrywiol

Y Math o Gontract: Cyfnod Penodol - Rhan Amser (patrymau gwaith amrywiol ar gael)

Cyflog: £26,911 - £41,598 yn seiliedig ar asesiad cyflog a phrofiad perthnasol.

Mae Coleg Cambria yn chwilio am sawl Darlithydd mewn Cymraeg i Oedolion i ddarparu amrywiaeth o gyrsiau Cymraeg i oedolion ar draws y Gogledd Ddwyrain.

Eich cyfrifoldeb fel Darlithydd Cymraeg i Oedolion bydd darparu cyrsiau ar bob lefel ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn rhithiol ac yn y dosbarth.

Gofynion Hanfodol

Gydag o leiaf cymhwyster lefel 4 neu gyfwerth

Gyda chymhwyster TAR

Rhaid gallu cyfathrebu a chyflwyno dysgu’n rhugl trwy gyfrwng y Gymraeg

Rydym yn chwilio am ymgeiswyr sydd gyda sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol ardderchog, yn agored ac yn ymatebol i anghenion pobl eraill, ac yn gallu adnabod cryfderau ac anghenion datblygu’r myfyrwyr a’u gwneud yn ymwybodol ohonynt hefyd.

Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i hyrwyddo proffil y Gymraeg.

Mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.

Mae Coleg Cambria yn gyflogwr ‘Hyderus o ran Anableddau’.

Mae hyrwyddo Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn rhan hanfodol o’n gwaith, ac mae’r coleg wedi ymrwymo i gael grŵp staff amrywiol fel rhan o hynny.

Mae diogelwch plant, pobl ifanc ac oedolion y nodwyd eu bod yn ‘agored i niwed’ yn hollbwysig ac mae Coleg Cambria wedi ymrwymo’n llwyr i ddiogelu a hyrwyddo lles yr unigolion hyn ac i weithredu gweithdrefnau a threfniadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn drwyadl. Byddwn yn gofyn am wiriad DBS gan yr ymgeisydd llwyddiannus a fydd yn cael cynnig y swydd. Yn dibynnu ar y swydd y byddwch yn gwneud cais amdani ac os ydych yn llwyddiannus, efallai bydd gofyn i chi gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg.

Sylwer fod Coleg Cambria yn cadw’r hawl i gau’r rhestr ymgeiswyr yn gynnar ar gyfer unrhyw swydd pe byddwn yn derbyn nifer fawr o geisiadau. Byddwn yn argymell eich bod yn cwblhau eich cais cyn gynted â phosibl os hoffech gael eich ystyried ar gyfer y swydd hon.

Dyddiad cau i wneud cais: 16/11/21

Manylion Ychwanegol

Cliciwch ar y ddolen wefan uchod i wneud eich cais am yr hysbyseb swydd

Defnyddiwch y manylion cyswllt uchod i gysylltu â ni am fwy o wybodaeth

*Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb*