Cyfieithydd gydag arbenigedd mewn Cyfieithu ar y Pryd

Trosolwg

I hyrwyddo gweithlu hyblyg, bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan unigolion sy'n ceisio am swydd gyda threfniadau gweithio llawn amser, rhan amser, rhannu swydd, neu yn ystod y tymor yn unig.

Cyflogwr: Prifysgol Aberystwyth

Cyflog: £34,804 - £40,322 y flwyddyn (pro rata)

Dyddiad Cau: 23/09/2019 (7 diwrnod)

Amser Cau: 17:00:00

Lleoliad

Prifysgol Aberystwyth Penglais Aberystwyth, Ceredigion, Cymru SY23 3FL

Gwybodaeth gyswllt

Enw Cyswllt: Adran Adnoddau Dynol

Ffôn: 01970 628555

E-bost: danfonwch e-bost

Gwefan: Ewch i'r wefan

Disgrifiad

Cyfieithydd gydag arbenigedd mewn Cyfieithu ar y Pryd

Canolfan Gwasanaethau’r Gymraeg

18.25 awr yr wythnos

Gradd 7: £34,804 - £40,322 y flwyddyn (pro rata).

I hyrwyddo gweithlu hyblyg, bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan unigolion sy'n ceisio am swydd gyda threfniadau gweithio llawn amser, rhan amser, rhannu swydd, neu yn ystod y tymor yn unig.

Mae Prifysgol Aberystwyth yn dymuno penodi cyfieithydd sydd ag arbenigedd mewn Cyfieithu ar y Pryd yng Nghanolfan Gwasanaethau’r Gymraeg i ddarparu gwasanaeth cyfieithu testun i’r Brifysgol ynghyd â chyfieithu ar y pryd mewn cyfarfodydd o brif bwyllgorau’r Brifysgol a chyfarfodydd amrywiol eraill. Dyma gyfle cyffrous i unigolyn â phrofiad o gyfieithu gefnogi’r Brifysgol i weithredu’n ddwyieithog a chyflawni amcanion Safonau’r Iaith Gymraeg. Disgwylir i’r cyfieithydd ddarparu gwasanaeth cyfieithu o’r Gymraeg i’r Saesneg ac o’r Saesneg i’r Gymraeg hefyd.

Cyf: CGG.19.2792

Sefydliad Dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sy’n ymroddedig i Gyfle Cyfartal. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd yn Gymraeg neu yn Saesneg a bydd pob cais a gyflwynir yn cael eu trin yn gyfartal.

FEL ARFER FE BENODIR I SWYDDI O FEWN 4-8 WYTHNOS WEDI’R DYDDIAD CAU.

Dyddiad Cau: 23 Medi 2019
Dyddiad Cyfweliad: 8 Hydref 2019

Manylion Ychwanegol

Cliciwch ar y ddolen wefan uchod i wneud eich cais am yr hysbyseb swydd

Defnyddiwch y manylion cyswllt uchod i gysylltu â ni am fwy o wybodaeth

*Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb*