Cyfieithydd Cymraeg (Cyfathrebu)

Trosolwg

Rydym yn chwilio am gyfieithydd dawnus, profiadol sy'n awyddus i weld ei (g)waith yn helpu i wneud gwahaniaeth yn ddyddiol. Cyfnod Penodol nes 31 Mawrth 2023

Cyflogwr: Cyngor Abertawe

Cyflog: £25,481 - £28,672 y flwyddyn

Dyddiad Cau: 03/12/2021 (5 diwrnod)

Amser Cau: 23:55:00

Lleoliad

Cyngor Dinas a Sir Abertawe, Canolfan Ddinesig Ffordd Oystermouth Abertawe, Abertawe, Cymru SA1 3SN

Gwybodaeth gyswllt

Enw Cyswllt: Patrick Fletcher

Ffôn: 07796 275277

E-bost: danfonwch e-bost

Gwefan: Ewch i'r wefan

Disgrifiad

Byddwch yn gweithio ochr yn ochr â thîm cyfathrebu bach, cyfeillgar ac ymroddedig sy'n anelu at gysylltu â'r cyhoedd ar amrywiaeth o lwyfannau o gyfryngau traddodiadol i rai arloesol trwy'r cyfryngau cymdeithasol a fideos.

Y brif rôl yw cyfieithu deunyddiau ysgrifenedig gan gynnwys datganiadau i'r wasg, negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol ac isdeitlau fideo sy'n gywir, yn amserol ac yn ddiddorol. Byddwch yn gyfforddus wrth weithio mewn amgylchedd prysur, gan roi cymorth a chyngor i swyddogion ac aelodau'r Cabinet.

Manylion Ychwanegol

Cliciwch ar y ddolen wefan uchod i wneud eich cais am yr hysbyseb swydd

*Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb*