Cydlynydd Gwerth Cymdeithasol

Trosolwg

Byddwch yn ymuno a’n tîm caffael, ond byddwch yn cydweithredu ac yn gweithio gyda chydweithwyr o bob rhan o’r sefydliad.

Cyflogwr: Adra Tai Cyf

Cyflog: £30,250 - £32,968 y flwyddyn / per annum

Dyddiad Cau: 11/11/2021 (16 diwrnod)

Amser Cau: 12:00:00

Gwybodaeth gyswllt

Enw Cyswllt: Catrin Jones

Ffôn: 01248677221

E-bost: danfonwch e-bost

Gwefan: Ewch i'r wefan

Disgrifiad

Cydlynydd Gwerth Cymdeithasol

£30,250 - £32,968 y flwyddyn / 37 awr yr wythnos / Bangor ac o gartref / Parhaol

Byddwch yn ymuno a’n tîm caffael, ond byddwch yn cydweithredu ac yn gweithio gyda chydweithwyr o bob rhan o’r sefydliad. Byddwch yn arwain ar ddarparu Siarter Gwerth Cymdeithasol Adra (ein strategaeth Gwerth Cymdeithasol), a byddwch yn gyfrifol am brif ffrydio ystyriaethau gwerth cymdeithasol drwy’r sefydliad.

Byddwch yn gyfrifol am ddatblygu dull Adra at greu gwerth cymdeithasol ychwanegol o’i weithgareddau ac yn annog sefydliadau partner, sefydliadau trydydd sector, a chadwyni cyflenwi cyfredol a’r dyfodol i fabwysiadu’r dull hwn.

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.

Dyddiad Cau: 12pm 11/11/21

Manylion Ychwanegol

Cliciwch ar y ddolen wefan uchod i wneud eich cais am yr hysbyseb swydd

*Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb*